Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am roi mwy o bwyslais ar effeithiau economaidd achosion TB mewn gwartheg yn dilyn y cyhoeddiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y byddai adolygiad o'r system iawndal yng Nghymru.
“Hyd yma, mae trafodaethau a rhaglenni ar reoli'r clefyd yng Nghymru wedi canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar faterion iechyd anifeiliaid,” meddai Dr Hazel Wright, uwch swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru. “Credwn y dylid rhoi mwy o bwyslais ar y materion economaidd sy'n gysylltiedig â TB mewn gwartheg.”
Mae FUW bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn cynnig sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Economeg TB mewn Gwartheg, a fyddai ar wahân i iechyd anifeiliaid, er mwyn darparu gwybodaeth gadarn a phenodol i Gymru am effaith ariannol achosion TB a’r effaith ar iechyd meddwl ffermwyr.
“O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn gorfod ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau. Ein pryder yw y bydd polisïau iawndal yn y dyfodol, sy'n darparu ar gyfer iawndal gwaeth, heb amheuaeth, yn cynyddu problemau iechyd meddwl a thlodi ymhlith y gymuned amaethyddol yng Nghymru, ac mae hyn yn wrthgyferbyniad uniongyrchol i rwymedigaethau ac amcanion y Ddeddf ”, meddai.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i gyrff cyhoeddus weithio'n well gyda phobl a chymunedau er mwyn atal problemau fel tlodi ac anghydraddoldebau iechyd. O ystyried y cyhoeddiad diweddar am adolygiad o'r system iawndal yng Nghymru, mae FUW yn credu ei bod yn hanfodol deall canlyniadau economaidd achos o TB cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r gyllideb.
“Rydym yn gwybod bod materion gan gynnwys colli stoc, problemau llif arian, costau ychwanegol cadw a bwydo stoc, colli rheolaeth dros y busnes ac ansicrwydd yn y dyfodol, yn cael effaith anochel ar les emosiynol teuluoedd ffermio. Fodd bynnag, mae'n debygol bod yr effaith wirioneddol wedi'i gamgymryd.”
Byddai Grŵp Gorchwyl a Gorffen Economeg TB mewn Gwartheg arfaethedig FUW yn cael ei ddefnyddio i hysbysu dyfodol iawndal TB mewn gwartheg a sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r gyllideb yn parhau i fod yn unol â'r egwyddorion hynny a amlinellir yn y Ddeddf Llesiant.
“Mae ffermwyr sy'n ceisio gweithredu eu busnes yn sgil TB mewn gwartheg ar y dibyn. O gofio bod iechyd meddwl wedi'i gysylltu'n anochel â chynaliadwyedd a diddyledrwydd busnes fferm, mae'n rhaid i ni ddeall canlyniadau economaidd y clefyd hwn yn llwyr,” meddai Dr Wright.