Mae cau safle prosesu llaeth gwerth £6.5 miliwn yng ngogledd Cymru, sy'n rhoi hyd at 80 o swyddi yn y fantol, yn ergyd fawr i weithwyr a'u teuluoedd ac yn bryder mawr i gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.
Derbyniodd Cwmni Bwyd GRH grant o £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2017, i ail-leoli ei bencadlys ym Minffordd, ond credir bellach y bydd yn mynd i ddwylo’r derbynwyr KPMG.
“Gallai hyn gael effaith ddinistriol ar y gweithwyr a'u teuluoedd, a'r gymuned ehangach,” meddai Dai Miles, Cadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW. “Dylai sicrhau dyfodol i'r safle fod yn bwysig iawn i'r ardal a Llywodraeth Cymru, a fuddsoddodd £ 1.7 miliwn yn y busnes, ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i berchnogion newydd i gymryd y safle pwrpasol.
“Mae'r newyddion diweddaraf hyn yn peri pryder sylweddol i'r sector llaeth yng Nghymru gyda gostyngiad pellach yn y gallu prosesu yng Nghymru. Os yw hyn yn golygu colli rhagor o brosesu yng Nghymru, yna mae hyn yn golygu colli manteision economaidd prosesu yng Nghymru a phryder mawr i gynhyrchwyr llaeth yn yr ardal.” ychwanegodd Mr Miles.