Effeithiau trychinebus Brexit heb gytundeb oedd un o'r materion a godwyd yn ystod cyfarfod rhwng Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) a'r Ysgrifennydd Amaethyddiaeth Michael Gove ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts wrth Mr Gove a Mr Cairns na fyddai unrhyw Lywodraeth neu Senedd gyfrifol yn caniatáu i'r DU adael yr UE heb gytundeb.
“Yn ddi-baid, rydym wedi bod yn tynnu sylw at effeithiau economaidd difrifol Brexit caled ar amaethyddiaeth, cymunedau gwledig a diwydiannau eraill, a mynegwyd ein pryderon ynghylch areithyddiaeth y ddau brif ymgeisydd gweinidogol yn glir i'r ddau Ysgrifennydd Gwladol.
“Amlygwyd ein pryderon trwy ddadansoddiad diweddaraf Hybu Cig Cymru sy’n awgrymu y gallai 92.5% o'n masnach allforio cig oen ddiflannu os byddwn yn mynd dros ddibyn Brexit ar 31 Hydref.”
Tynnodd Mr Roberts sylw hefyd at bryderon FUW bod y cyfraddau tariff y bwriadodd Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith ar gyfer mewnforion bwyd yn ffracsiwn o'r cyfraddau y byddai'n rhaid i allforwyr y DU eu talu i anfon cynnyrch i'r UE.
“Fe wnaethom hefyd dynnu sylw at y ffaith bod y cynnig i ddefnyddio eithriad WTO a ddefnyddir yn fwy arferol mewn sefyllfaoedd eithafol fel newynau i ganiatáu cynnyrch groesi i'r DU o Weriniaeth Iwerddon di-dariff yn codi’r tebygrwydd y byddai Gogledd Iwerddon yn dod yn fynediad ddi-dariff i'r farchnad gartref.
“Byddai tariffau is neu lai yn gwbl annerbyniol ac yn ychwanegu'n sylweddol at y pwysau sydd ar farchnadoedd y DU.”
Er bod Mr Roberts yn cydnabod ac yn croesawu'r ffaith y byddai'r gyfradd tariff ar gyfer cig oen a chig dafad yn cael ei gosod ar yr un gyfradd ag ar gyfer allforion y DU i'r UE, ychydig o gymorth byddai hwn o gofio bod cytundeb eisoes wedi'i wneud â Seland Newydd a prif bryder ffermwyr Cymru oedd colli marchnadoedd allforio oherwydd tariffau a rhwystrau'r UE.
Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd Mr Roberts hefyd y risg y byddai lefelau TB gwartheg uchel yn y DU yn cael eu cynnwys yn helaeth mewn trafodaethau masnach yn y dyfodol ac y gallai beryglu marchnadoedd allforio, a bod angen gwneud cynnydd yng Nghymru a Lloegr.
“Er ein bod yn sylweddoli bod delio â TB yn fater datganoledig, nid yw masnach, ac mae angen ystyried hyn fel mater masnach yn ogystal ag un y mae angen mynd i'r afael ag ef oherwydd yr effeithiau economaidd a meddyliol erchyll a gaiff ar unigolion, teuluoedd a chymunedau gwledig.”
Trafodwyd hefyd yr angen i gytuno ar fframwaith ariannol aml-flwyddyn a oedd yn sicrhau bod amaethyddiaeth Cymru yn parhau i dderbyn lefelau digonol o gyllid, ynghyd â methiant llywodraethau'r DU i wneud cynnydd ar ddatblygu a chytuno ar fframweithiau sy'n diogelu cynhyrchwyr Cymru a chynhyrchwyr eraill yn erbyn afluniad ym marchnad gartref y DU.
“Fel y mae pethau ar hyn o bryd, pan fyddwn yn gadael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE bydd gan ein pedair gwlad y rhyddid mwyaf a welir mewn canrifoedd i bolisïau amaethyddol ddargyfeirio, ac mae'r perygl o aflunio'r farchnad a ffermwyr mewn rhai gwledydd o dan anfantais enfawr."