Wrth i fis Medi gychwyn gyda’r ‘Wythnos Caru Cig Oen’ poblogaidd, mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r diwydiant defaid ar golled yn y pen draw oherwydd methiannau trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Rydyn ni wedi dweud hyn lawer gwaith o’r blaen - mae ein cig oen o’r ansawdd gorau a bydd y rhai sydd wedi’i flasu, rwy’n siŵr, yn cytuno ei fod yn gynnyrch premiwm.
“Fodd bynnag, nid yw cynhyrchu cynnyrch premiwm o unrhyw ddefnydd os nad oes gennym farchnad i'w werthu iddo ac mae tariffau yn ei gwneud yn aneconomaidd i fynd ar drywydd cynhyrchu bwyd o'r fath.
“Dair blynedd wedi refferendwm yr UE ac un o’r materion mwyaf cymhleth sy’n ein hwynebu o hyd yng ngoleuni ein hymadawiad yw’r trafodaethau masnach.
“Rydyn ni'n gwybod, os nad oes gennym ni farchnad allforio ar ôl 31 Hydref, yna bydd gennym ni ormod o gig oen ar gyfer ein marchnad ein hunain - hyd yn oed pe bai'r holl fewnforion wedi'u gwahardd.”
Atgoffodd Mr Roberts Lywodraeth y DU ymhellach fod 40% o gig defaid y DU yn cael ei allforio heb dariff i'r UE a'i fod hefyd yn gynnyrch tymhorol.
“Rydyn ni'n dibynnu ar y ffaith ein bod ni'n gallu allforio darnau o gig sy'n llai poblogaidd gyda'n defnyddwyr, sy'n cydbwyso ein gwerthiannau carcasau, ond hefyd rydyn ni newydd ddod mewn i dymor cig oen y DU.
“Pe byddem yn colli mynediad i’r farchnad honno, mae amaethyddiaeth Cymru yn edrych ar rai problemau difrifol. Rydym yn gyfrifol am fwy nag 20% o gynhyrchiad y DU a byddai canlyniadau Brexit heb gytundeb yn drychinebus ac o bosibl yn dinistrio ein diwydiant defaid, chwalu ein cymunedau gwledig ac yn ddiwedd ar ein heconomi wledig.
“Mae goroesiad ein heconomïau gwledig a dyfodol ein diwydiant cig oen yn dibynnu ar lwyddiant y trafodaethau masnach hynny. Fel diwydiant rydym yn mawr obeithio am fwy na gwyrth, os ydym am barhau i gynhyrchu cig oen o Gymru fel cynnyrch premiwm am genedlaethau i ddod,” ychwanegodd Glyn Roberts.