Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru i aelodau ac eraill sydd â diddordeb mewn trafod ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgynghoriad, a lansiwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths ym mis Gorffennaf, yn amlinellu cynigion ar gyfer cefnogaeth fferm a gwledig yn y dyfodol sydd wedi'u hadolygu yng ngoleuni'r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i ymgynghoriad Brexit a'n Tir 2018.
Mae'n cynnig y dylid cynllunio cefnogaeth yn y dyfodol o amgylch egwyddor cynaliadwyedd mewn ffordd sy'n dwyn ynghyd y 'cyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol eang ac arwyddocaol neu ffermwyr', trwy un Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn seiliedig ar yr egwyddorion o ddarparu cynllun ystyrlon a llif incwm sefydlog; gwobrwyo canlyniadau mewn ffordd deg; talu am arferion cynaliadwy newydd a phresennol; a hyblygrwydd sy'n caniatáu iddo fod yn berthnasol i bob math o fferm.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod y ddogfen ymgynghori yn cydnabod llawer o’r pryderon a godwyd gan ymatebwyr i ymgynghoriad Brexit a’n Tir llynedd, ac yn canolbwyntio ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.
“Mae pryderon a amlygwyd gan FUW y llynedd ynghylch peryglon gosod amserlen sefydlog a bwrw ymlaen gyda chynigion ar adeg o ansicrwydd llwyr ynghylch Brexit a’i effeithiau, ac ymgymryd ag asesiadau manwl ac asesiadau economaidd o gynigion cyn dod i unrhyw benderfyniad, hefyd yn ymddangos bod nhw wedi cael eu hystyried.”
Dywedodd Mr Roberts y byddai’r gydnabyddiaeth hon a naws ymgynghorol y ddogfen yn helpu i drafod y cynigion gyda’r diwydiant ac yn annog ffermwyr i ymuno â FUW yn ei chyfarfodydd ymgynghori.
“Er ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cyfnod ymgynghori, nes ein bod wedi cael cadarnhad clir bod hyn yn wir, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ffermwyr yn deall y cynigion.
“Byddwn felly yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol amaethyddiaeth, a'n heconomi wledig i ymuno â ni yn un o'n cyfarfodydd i drafod yr hyn sy'n cael ei gynnig,” ychwanegodd Glyn Roberts.
Felly, trefnwyd digwyddiadau i drafod y ddogfen ymgynghori yn fanwl ar y dyddiadau a'r lleoliadau a ganlyn ac fe'u noddir gan Fanc HSBC:
SIR |
DYDDIAD |
LLEOLIAD AC AMSER DECHRAU |
Dinbych a Fflint |
Llun Medi 16 |
Theatr Ddarlithio, Coleg Llysfasi, LL15 2LB, 7.30yh |
Caernarfon |
Mercher Medi 18 |
Coleg Glynllifon, LL54 5DU, 7.30yh |
Ynys Môn |
Gwener Medi 20 |
Pafiliwn Maes Sioe Môn, LL65 4RW, 7.30yh |
Sir Benfro |
Llun Medi 23 |
Gwesty Nantyffin, Llandissilio, SA66 7SU, 7.30yh |
Ceredigion |
Mercher Medi 25 |
Clwb Rygbi Aberaeron, SA46 0JR, 7.30yh |
Sir Gaerfyrddin |
Gwener Medi 27 |
Tafarn White Hart, Llandeilo, SA19 6RS, 7.30pm |
Gwent |
Mawrth Hydref 1 |
Canolfan Da Byw Sir Fynwy, Rhaglan, NP15 2BH, 7.30yh |
Morgannwg |
Mercher Hydref 2 |
Clwb Golff The Grove, Porthcawl, CF33 4RP, 7.30yh |
Brycheiniog a Maesyfed |
Gwener Hydref 4 |
Pafiliwn FUW, Llanelwedd, LD2 3NJ, 7yh |
Meirionnydd |
Llun Hydref 7 |
Clwb Rygbi Dolgellau, Marian Mawr Enterprize Park, Dolgellau LL40 1UU; 7.30yh |
Sir Drefaldwyn |
Mercher Hydref 9 |
Gwesty Elephant & Castle, Broad St, Y Drenewydd SY16 2BQ; 7.30yh |