Mae teulu ffermio o Ynys Môn wedi codi pryderon am y sector cig eidion a ffermio da byw gyda’r Aelod Seneddol lleol Albert Owen, gan dynnu sylw bod angen gwneud mwy i amddiffyn ffermydd teuluol yn yr amseroedd ansicr hyn.
Mae Ioan Roberts a'i wraig Helen, yn ffermio yn Nhryfil Isaf, Llannerchymedd, fferm 150 erw sydd wedi bod yn y teulu ers yr 1870au ac sy'n gartref i fuches o 120 o Wartheg Duon Cymru.
Fe roddodd Ioan y gorau i’w swydd fel athro Ysgol Uwchradd 14 mlynedd yn ôl i ganolbwyntio ar y fferm a darganfod nad oedd unrhyw fridiau eraill yn ymdopi â’r hinsawdd leol gystal â Gwartheg Duon Cymreig.
Ac er nad oes unrhyw gyfyngiadau ar ei frwdfrydedd dros y diwydiant, mae'n poeni am ddyfodol nid yn unig ei fusnes ei hun, ond dyfodol y sector cig coch.
Dywedodd: “Fe wnaethon ni roi cynnig ar fridiau eraill o wartheg yma ar y fferm ond y Gwartheg Duon sy’n gweithio orau i ni. Nhw yw brid brodorol Cymru ac yn darparu cig o ansawdd uchel - na allaf ond ei ddisgrifio fel y gorau.
“Yn anffodus nid yw pris cig eidion cystal ag y dylai fod ac rwy’n teimlo bod angen gwneud mwy i hyrwyddo’r cynnyrch rhyfeddol hwn fel cynnyrch premiwm. Yn fy meddwl i mae'n sicr yn haeddu lle gyda chig oen Cymreig PGI.
“Yn y cyfnodau ansicr hyn, rhaid i ni wneud yn well i hyrwyddo ein bwyd gwych o Gymru i ddefnyddwyr yma, ond mae angen i Lywodraeth y DU hefyd sicrhau bod gennym ni farchnad allforio ymhen ychydig wythnosau yn unig. Fel arall, beth yw'r pwynt parhau?
“Heb fod yn negyddol, mae’r sector yn wynebu rhai heriau go iawn, ac ni allwn eu goresgyn i gyd ar ben ein hunain. Fel ffermwyr rydym yn barod i wneud popeth sydd ei angen i redeg ein busnes yn effeithlon, i gynhyrchu bwyd sydd o'r safon uchaf. Ac os ydym am barhau i weld bridiau brodorol fel ein Gwartheg Duon ar y tir a mwynhau bwyd mor ogoneddus - mae angen gwneud mwy.”
Manteisiodd swyddogion yr undeb ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu pryderon y diwydiant ynghylch Brexit heb gytundeb.
Dywedodd Is-lywydd FUW, Eifion Huws: “Gyda chymaint o sôn am Brexit heb gytundeb, y Llywodraeth yn gwasgu’r cloc heb roi unrhyw sicrwydd cadarn i’n diwydiant, rydym yn pryderu am ddyfodol ein busnesau gwledig a’n ffermydd teuluol, fel Tryfil Isaf.
“Rhaid i Lywodraeth y DU ystyried pob opsiwn posib os ydym am ddiogelu dyfodol ein ffermydd teuluol a’r economi wledig yng Nghymru.
“Rhaid i’r rhai sy’n frwd dros Brexit fod yn realistig ynglŷn â’r peryglon o bethau’n mynd o chwith, a’r angen am dynnu’n ôl yn drefnus dros amserlen realistig.”
Ychwanegodd Mr Huws fod yn rhaid ystyried diddymu Erthygl 50 - polisi y cytunwyd arno gyntaf mewn cyfarfod brys o dîm llywyddol yr Undeb a chadeiryddion pwyllgorau ganol mis Ionawr - gan mai hwn yw'r unig opsiwn a fyddai'n cymryd rheolaeth dros y broses yn ôl ac yn dychwelyd ni i sefyllfa lle mae Brexit llyfn a threfnus yn bosibl.
“Mae Brexit caled ar fyr rybudd yn debygol o wneud niwed mawr i ffermwyr a chymunedau ffermio ledled Cymru. Dyna pam rydyn ni angen saib, cynllunio ac ailgychwyn pan rydyn ni'n hollol barod.”