Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn dweud y byddai cynigion newydd Llywodraeth y DU i ddatrys cyfyngder Gogledd Iwerddon yn parhau i anwybyddu ffermwyr Cymru a Chymru - hyd yn oed pe bai’r UE yn derbyn y cynnig.
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Hyd yn oed os yw’r UE yn derbyn y cynnig er gwaethaf cytundeb Dydd Gwener y Groglith, nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth i’r gwir bryderon ynghylch yr effaith ar amaethyddiaeth Cymru ac economi Cymru.”
Dywedodd Mr Roberts fod yr Undeb yn parhau a’r farn glir y dylai'r DU gyfan aros o fewn y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau er mwyn lleihau effeithiau economaidd difrifol.
“Ni ddylid ystyried ad-drefnu'r backstop Gwyddelig fel modd o geisio mynd i’r afael â phryderon Gogledd Iwerddon fel ‘cytundeb’ newydd’ i’r DU gyfan.
“Nid yw’n gwneud dim i leddfu’r pryderon sy’n gynhenid yn y Cytundeb Tynnu’n ôl gwreiddiol, a fyddai beth bynnag yn berthnasol am gyfnod byr iawn yn unig.
“Ni fyddai ychwaith yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r Datganiad Gwleidyddol annelwig a phenagored sy’n ymwneud â sut y byddai Cymru a’r DU yn masnachu gyda’r UE yn y tymor hir.”
Dywedodd llywydd yr Undeb mai’r dewis mwyaf synhwyrol, felly, fyddai i’r DU gyfan aros o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.
“Ers mis Ionawr rydym wedi argymell tynnu Erthygl 50 yn ôl er mwyn dychwelyd i amserlen drafod synhwyrol fel bod modd trafod cytundeb Brexit synhwyrol.
“Ond mae yna ddewis hefyd rydyn ni wedi’i argymell ers Refferendwm Mehefin 2016 a gefnogir gan yr UE, sef aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau i leihau’r hyn y mae dadansoddiadau’r Llywodraeth ei hun hyd yn oed yn dangos effeithiau economaidd difrifol.”
Dywedodd Mr Roberts y byddai hyn yn parchu canlyniad y refferendwm wrth atal difrod i'n heconomi a'n cymunedau gwledig.
“Waeth bynnag bryderon o’r fath, rwy’n wirioneddol obeithio mai cynnig dilys yw hwn yn hytrach na thacteg sinigaidd sydd â’r nod o atal Brexit diogel ac amserol er mwyn denu cefnogaeth y cyhoedd diamynedd,” ychwanegodd Mr Roberts.