Roedd pwysigrwydd cadw'n ddiogel ar y fferm a manteision cynhyrchu bwyd gyda'r amgylchedd mewn golwg, yn bynciau llosg ar agenda ymweliad fferm ddiweddar ym Meirionnydd.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar fferm bîff a defaid cadeirydd sir FUW Meirionnydd, Sion Ifans, a'i wraig Gwawr. Mae'r cwpl yn ffermio ym Mhrynuchaf, Llanymawddwy.
Mae'r fferm yn ymestyn i 370 hectar, y mwyafrif ohono yn dir mynyddig, ac yn fferm fynydd nodweddiadol Meirionnydd.
Maent yn cadw diadell o 900 o ddefaid mynydd Cymreig, a 15 o fuchod sugno. Mae'r holl stoc stôr yn cael ei werthu trwy’r farchnad, a’r holl ŵyn gorffenedig yn cael eu hanfon i Randall Parker Foods yn Llanidloes neu drwy Farmers Marts yn yr arwerthiant da byw ym Machynlleth.
Mae’r fferm hefyd wedi bod yng nghynllun Glastir ers 2014, ac mae hanes hir o gymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd fel Tir Cymen yn gynnar yn y 1990au pan ddewiswyd Meirionnydd yn ardal beilot ar gyfer y cynllun. Wedi hynny, ymunodd y fferm â chynllun Tir Gofal nes i'r cyfle ddod i ymuno â Glastir.
I ychwanegu at incwm y fferm, mae Sion hefyd yn gweithio'n hunangyflogedig yn rhan-amser gyda Cyswllt Ffermio a WLBP ac mae ei wraig Gwawr yn cael ei chyflogi gan Gyngor Conwy fel cyfieithydd.
Wrth groesawu criw o ffermwyr lleol a dangos gwahanol elfennau o’r cynllun Glastir, dywedodd Sion: “Rydyn ni bob amser wedi gofalu am yr amgylchedd yma ym Mhryncrug ac yn meddwl bod cynhyrchu bwyd a gofalu am y tir, yn mynd llaw yn llaw.
“Fel cynhyrchwyr bwyd, rydyn ni'n amodol ar bob tywydd ac rydyn ni'r un mor fregus â phawb arall i newid yn yr hinsawdd a'r eithafion a ddaw yn ei sgil.
“A ydym yn mynd i gyflawni'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud - lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a bwydo'r genedl - trwy gefnogi gwledydd sy'n cynhyrchu bwyd i safonau a fyddai'n anghyfreithlon yn y wlad hon? Neu wrth fewnforio bwyd miloedd o filltiroedd i ffwrdd? Yr ateb yw na.
“Mae'r DU i fod i gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050, ac eto mae ein system fwyd yn fregus ac yn cael ei dominyddu gan gadwyni cyflenwi byd-eang cymhleth. Fel ffermwyr, mae’r wybodaeth, y sgil, a'r parodrwydd gyda ni i gynhyrchu bwyd cynaliadwy, sy'n gweithio’n berffaith â'r amgylchedd ond mae angen gadael ni i wneud y gwaith.
“Os ydym am achub yr amgylchedd a bwydo’r genedl, gadewch i ni ganolbwyntio ar fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol; bwyd sydd wedi'i gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy ac ecogyfeillgar. ”
Clywodd y rhai a ymunodd â'r daith fferm hefyd gan Alun Edwards, Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, am bwysigrwydd cadw'n ddiogel ar y fferm.
Pwysleisiodd Alun Edwards bwysigrwydd rheoli risg a gweithredu arferion gorau yng ngwaith beunyddiol ffermwyr, ac i stopio, meddwl, a bod yn ddiogel.
Gan gyfeirio at y record erchyll o amaethyddiaeth o’i chymharu â diwydiannau eraill, pwysleisiodd fod yn rhaid i ni fynd i’r afael yn llwyr â’r broblem.
“Y gwir yw bod ffermio yn ddiwydiant peryglus. Rydym yn gweithio gyda pheiriannau, cerbydau, cemegau, da byw a allai fod yn beryglus, ar uchder neu'n agos at byllau a seilos.
“Mae hefyd yn eithaf amlwg ein bod ni fel diwydiant yn ofnadwy am gadw ein hunain ac aelodau’r teulu yn ddiogel rhag niwed. Mae'r niferoedd yn cadarnhau'r digwyddiadau mwyaf trasig ond ddim yn cynnwys y damweiniau llai, a ddylai fod yn rhybudd efallai.
“Mae ffermydd yn llefydd gwaith prysur, a rhaid i ni gydnabod y peryglon a allai fod yn ddifrifol. Mae mor hanfodol bod y diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i ledaenu'r gair ar bwysigrwydd diogelwch fferm, ac rwy'n annog pawb sy'n gysylltiedig i fanteisio ar gefnogaeth, arweiniad a'r hyfforddiant sydd ar gael,” meddai Alun Edwards.
Ychwanegodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol FUW Meirionnydd: “Ar ran ein haelodau hoffwn ddiolch i Sion a Gwawr am gynnal y digwyddiad addysgiadol hwn ac wrth gwrs i Alun Edwards am gadw diogelwch fferm yn gadarn ar yr agenda.”