Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn dweud fod yn rhaid defnyddio’r amser ychwanegol sy’n deillio o benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio penderfyniad ar reoliadau ansawdd dŵr, i ddod o hyd i ddewis arall yn lle’r mesurau llym a gyhoeddir mewn rheoliadau drafft.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths ddydd Mercher 8 Ebrill ei bod yn bwriadu cyflwyno’r rheoliadau ‘unwaith y daw’r argyfwng i ben’, er gwaethaf y ffaith y byddai penderfyniad o’r fath yn mynd yn groes i gyngor cynghorwyr swyddogol Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn costio degau o filiynau'r flwyddyn i ffermwyr Cymru.
Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: "Byddai'r rheoliad arfaethedig, pe bai'n cael ei gyflwyno, yn dynodi bradychiad o’r egwyddorion o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a chymesuredd, yn bradychu ffermio Cymru ac - o ystyried profiadau ardaloedd arall o NVZ, yn bradychu amgylchedd Cymru."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynghori Llywodraeth Cymru yn erbyn y camau a gynigiwyd ar hyn o bryd gan y Gweinidog, gan rybuddio y gallai waethygu llygredd.
Mi wnaethant hefyd dynnu sylw at y ffaith efallai nad oes ganddyn nhw ddigon o adnoddau i gyflawni'r drefn arolygu reoliadol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau yn effeithiol, a bod Asesiad Effaith Rheoleiddio Llywodraeth Cymru - sydd heb ei gyhoeddi - yn methu â dilyn canllawiau'r Llywodraeth ei hun, gan ei fod yn methu cyflwyno ac asesu ystod gynhwysfawr o opsiynau.
“Byddai’r ddeddfwriaeth ddrafft, pe bai’n cael ei chyflwyno, yn dynodi Cymru gyfan fel NVZ, ardal sydd fwy na deugain gwaith yn fwy nag ardal gyfredol NVZ Cymru, ac un ar ddeg gwaith yn fwy na’r hyn a argymhellwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru,” meddai Mr Roberts.
Ym mis Ebrill 2018, cyflwynodd Is-grŵp Amaeth-lygredd Fforwm Rheoli Tir Cymru - y mae'r FUW yn aelod ohono ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill - adroddiad manwl yn awgrymu 45 o argymhellion gyda'r nod o dargedu llygredd amaethyddol yn seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod adnoddau wedi'u hanelu at leoedd lle nodwyd problemau llygredd.
"Mae'n ymddangos bod yr argymhellion hynny wedi cael eu hanwybyddu, gyda Llywodraeth Cymru yn hytrach yn dewis torri a gludo rheolau NVZ yr UE a'u gosod ar y wlad gyfan - rheolau a fyddai fel rheol ond yn berthnasol mewn ffracsiwn bach o dirweddau fel y rhai sydd gennym ni yng Nghymru. “Mae cyhoeddiad y gweinidog am oedi yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru amser bellach i ystyried y 45 o argymhellion a gyflwynwyd gan Fforwm Rheoli Tir Cymru yn iawn, amser i ailystyried cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru, ac amser i gynhyrchu a chyhoeddi Asesiad Effaith Rheoleiddio cynhwysfawr sy'n cydymffurfio â'i chanllawiau nhw ei hunan trwy ystyried ystod o opsiynau yn hytrach na'r un mwyaf eithafol yn unig, ac effeithiau rhain ar sawl lefel.
“O ystyried rhybuddion difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru a’r costau enfawr disgwyliedig i ddiwydiant ffermio Cymru a fyddai’n gannoedd o filiynau ar adeg o ansicrwydd eithafol oherwydd Coronafirws a Brexit, mae’r mater hwn yn haeddu asesiad cynhwysfawr.
Byddai cyhoeddi Asesiad Effaith Rheoleiddiol blêr, o ystyried penderfyniad mor enfawr, yn sarhad ar Gynulliad Cymru a’r cyhoedd yng Nghymru,” ychwanegodd.