Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi siarad am eu pryder dwfn ynglŷn â’r ffaith y bydd rheoliadau ansawdd dŵr a gyhoeddir ar ffurf ddrafft gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn gwthio ffermydd llaeth ‘dros y dibyn’.
Wrth drafod y ddeddfwriaeth ddrafft mewn cyfarfod brys o bwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), roedd y cynrychiolwyr yn glir na fyddai cyfran fawr o'r diwydiant, sydd eisoes yn dioddef effeithiau difrifol oherwydd sgil-effaith Coronafirws, yn medru goroesi pe bai'r rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno.
“Mae nifer fawr o ffermwyr llaeth Cymru wedi gweld gostyngiadau enfawr yn y pris maen nhw'n ei dderbyn am eu llaeth yn ogystal ag oedi cyn cael eu talu oherwydd cau'r sector gwasanaeth ac effeithiau eraill a achosir gan coronafirws,” dywedodd cadeirydd pwyllgor Llaeth FUW, Dai Miles.
Mae hyn wedi arwain at rai ffermwyr yn gorfod taflu miloedd o litrau o laeth i ffwrdd a niferoedd mawr yn colli symiau enfawr o arian yn ddyddiol, meddai Mr Miles.
“Ar hyn o bryd rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gall busnesau fferm oroesi, ond beth bynnag fydd yn digwydd bydd ein diwydiant dan bwysau ariannol difrifol ar ddiwedd yr argyfwng hwn.
“Mae cyhoeddi rheoliadau drafft a fyddai’n gofyn i deuluoedd, sydd mewn sefyllfa mor ansicr, ddod o hyd i ddegau neu gannoedd o filoedd o bunnoedd i gydymffurfio, ynghyd â chostau cydymffurfio blynyddol mawr wedi hynny, mae’n hoelen arall yn arch sector sydd eisoes dan bwysau difrifol,” ychwanegodd.
Byddai'r ddeddfwriaeth ddrafft, pe bai'n cael ei chyflwyno, yn dynodi Cymru gyfan fel NVZ, ardal sydd fwy na deugain gwaith yn fwy na’r ardal NVZ Cymru bresennol, ac un ar ddeg gwaith yn fwy na'r hyn a argymhellwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan wneud degau o filoedd o ffermydd yn gaeth i reolau llym sydd fel rheol ond yn berthnasol mewn ardaloedd lle dangoswyd bod problemau llygredd yn bodoli.
“Ar gyfer y mwyafrif helaeth o ffermydd Cymru nid oes tystiolaeth bod angen mesurau o’r fath, ac mae risg wirioneddol y byddai’r rheoliadau mewn gwirionedd yn cynyddu llygredd hyd yn oed,” dywedodd Mr Miles, a amlygodd y ffaith bod y rheoliadau drafft yn anwybyddu argymhellion gan eu ei ymgynghorwr swyddogol ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag adroddiad manwl yn 2018 gan Fforwm Rheoli Tir Cymru gyda'r nod o dargedu llygredd amaethyddol yn seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod adnoddau'n canolbwyntio ar fannau lle'r oedd problemau llygredd wedi'u nodi.
Dywedodd Mr Miles fod arbenigwyr wedi dweud wrth un ffermwr tenant ar bwyllgor Llaeth FUW y byddai cydymffurfio â’r rheoliadau drafft yn costio £100,000 i’r busnes - arian nad oedd y landlord yn barod i’w fuddsoddi ac na allai’r teulu ei fforddio, gan olygu y byddai’r busnes yn gorfod dod i ben.
“Rydym wedi codi’r mater o ffermydd tenantiaid dro ar ôl tro yn ogystal ag ystod o faterion eraill, ac nid aethpwyd i’r afael â’r un ohonynt. Yn syml, mae Llywodraeth Cymru wedi torri a gludo rheoliadau'r UE yn hytrach na chymryd y cyfle i gyflwyno dull cymesur, wedi'i dargedu ac arloesol o fynd i'r afael â phroblemau yr ydym i gyd am eu gweld yn cael eu trin lle maent yn digwydd.
“Ar ran ein diwydiant llaeth a phob ffermwr arall yma yng Nghymru, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn defnyddio’r amser sydd ganddi nawr i ailystyried y rheoliadau hyn er mwyn dyfodol pawb, gan gynnwys yr amgylchedd yr ydym yn gofalu amdano,” ychwanegodd Mr Miles.