[caption id="attachment_6792" align="alignleft" width="300"] Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Eirlys Thomas a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas[/caption]
Bu criw o swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths (dydd Llun, 15 o Awst) i drafod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol ehangach amaethyddiaeth i’r economi wledig a threfol yn ogystal ag annog y genhedlaeth nesaf i’r diwydiant.
Cynhaliwyd y cyfarfod ar fferm Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach - cartref Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas, sydd wedi bod yn ffermio yma ers 1988. Yna, bu’r criw’n ymweld â Mansel Davies & Son Ltd i drafod hanes a natur y busnes a'i berthynas â'r diwydiant amaethyddol a'r economi wledig.
Mae Brian Thomas yn ffermio 280 erw, gyda 30 erw o’r tir hwnnw’n goetir yng Ngogledd Sir Benfro, ac yn cadw buches o 100 o wartheg Byrgorn, diadell o 300 o ddefaid, ac yn tyfu grawnfwydydd hefyd.
Yn siarad ar ôl y cyfarfod yngl?n â pham fod ffermio mor bwysig i'n heconomi wledig, dywedodd Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas: "Hoffwn yn gyntaf oll ddiolch i Lesley Griffiths am gwrdd â ni yma ar y fferm deuluol. Cawsom drafodaethau eang ar faterion ffermio a manteisiwyd ar y cyfle i dynnu sylw at y rhan bwysig mae ffermio’n chwarae yn ein heconomi wledig.
"Os ydym am annog y genhedlaeth nesaf i ddechrau ffermio mae'n rhaid iddo fod yn ymarferol iddynt wneud hynny. Wrth edrych o gwmpas yr ardal hon, dim ond 1 o bob 8 fferm sydd â phlant sydd am gymryd awenau’r busnes teuluol. Ar gyfartaledd, oedran y ffermwyr yn fy ardal leol i yw 60 mlwydd oed neu’n fwy, felly mae’n rhaid sicrhau bod gan y ffermydd hyn ddyfodol er mwyn lles ein heconomi wledig.
[caption id="attachment_6791" align="alignright" width="300"] Cynrychiolydd cangen Sir Benfro o UAC John Savins; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas.[/caption]
"Rwy'n gweld bod dyfodol ffermio gyda’r ieuenctid. Ond, gydag incwm aelwyd fferm ar gyfartaledd tua £13,000 y flwyddyn ac yn gweithio fwy na 60 awr yr wythnos - pam fydden nhw am ffermio? Oherwydd natur y busnes, dim ond 1 cam sydd rhyngom ni ac argyfwng.
"Mae ein busnesau ffermio yn rhoi sefydlogrwydd i’r economi wledig, incwm ar gyfer ein plant a'n teuluoedd ac yn cadw cymunedau ynghyd. Mae cyfle gyda ni nawr i wneud rhywbeth mawr - creu ein dyfodol ni yn nhermau marchnadoedd a deddfwriaethau, pwynt yr ydym wedi ei drosglwyddo’n glir i'r Ysgrifennydd Cabinet yma heddiw."
Mae Stephen a Kaye Mansel Davies o Mansel Davies & Son Ltd yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r ail a'r trydydd sector busnes i’n heconomi wledig.
Sefydlwyd y cwmni ym 1875 gan y diweddar John Davies. Ymunodd ei fab, Mansel Davies, a’r busnes ym 1900 ac mae'r cwmni yn parhau i ddefnyddio’r enw yma heddiw. Bellach, mae'r cwmni’n cael ei redeg gan Kaye Mansel Davies (Cadeirydd), y 4ydd cenhedlaeth, a'i fab Stephen Mansel Davies (Rheolwr Gyfarwyddwr) – mae’r genhedlaeth nesaf eisoes yn rhan o’r cwmni.
[caption id="attachment_6793" align="alignleft" width="300"] (chwith i’r dde) Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths; Kaye Mansel Davies; Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas a Llywydd UAC Glyn Roberts.[/caption]
Ar hyn o bryd maent yn cyflogi dros 300 o bobl ac yn gweithredu 180 o dryciau gyda phob un o’r gweithwyr yn byw o fewn 40 milltir o Lanfyrnach. Ar wahân i'r awdurdod lleol a'r burfa olew nhw yw’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Benfro, gyda throsiant blynyddol o ychydig dan £30 miliwn.
Dywedodd Stephen Mansel Davies fod 90% o waith y cwmni yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan ddweud: "Ni yw’r cludwr llaeth mwyaf yng Nghymru, yn casglu 1.4 miliwn litr y dydd ar ran 7 prynwyr gwahanol ac yn dosbarthu i’r DU ar ran dau brynwr arall. Mae cyfanswm ein symudiadau llaeth neu gynnyrch llaeth yn dod i tua 4 miliwn litr y dydd."
Mae'r cwmni'n dosbarthu llaeth a chynhyrchion llaeth i broseswyr yng Nghastell Newydd Emlyn, Llangefni, De Caernarfon, Felinfach, Acton, Llundain, Southampton, Droitwich, Bridgewater, Westbury, Gogledd Tawton, Aylesbury, Caer, Severnside a nifer o ffatrïoedd eraill o amgylch y DU.
Rhan bwysig arall o’r busnes yn dosbarthu bwydydd anifeiliaid yn yr ardal. Mansel Davies yw un o’r cyflenwyr mwyaf o gerrig calch sydd hefyd yn cael ei wasgaru ar y tir ar gyfer niwtraleiddio pridd.
Yn dilyn y cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Stephen Mansel Davies: "Mae angen i bawb sy’n rhan o’r Llywodraeth ddeall pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i Gymru - dyma'r unig ddiwydiant hirdymor cynaliadwy sydd gyda ni. Wrth edrych ar y niferoedd sy’n cael eu cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan y sector, mae'n llawer mwy pwysig na beth mae pobl a’r Llywodraeth yn feddwl.
[caption id="attachment_6790" align="alignleft" width="300"] (chwith i’r dde) Llywydd UAC Glyn Roberts; Stephen Mansel Davies; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths a Kaye Mansel Davies.[/caption]
"Mae amaethyddiaeth a’r diwydiant llaeth yn arbennig newydd fod trwy gyfnod anodd iawn gyda phrisiau’r fferm yn gostwng wrth oddeutu 30% sydd ddim yn gynaliadwy. O ganlyniad uniongyrchol i’r prisiau llaeth isel rydym wedi gweld faint sy’n cael ei gynhyrchu yn gostwng 11% o fis Gorffennaf 15 i Orffennaf 16. Os caiff Brexit ei reoli’n gywir, rwy’n gweld y gallai ddod a manteision cadarnhaol hirdymor i amaethyddiaeth - rhan bwysig o hyn fydd rheolaeth y llywodraeth o’r cyfnod pontio yn y tymor byr."
Bydd yr Undeb yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio, drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig, rhanddeiliaid y diwydiant, yn ogystal â’r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd.