UAC yn cyhoeddi siaradwyr ‘Cynhadledd Amaeth Cymru’

Mae’r rhestr gychwynnol o siaradwyr wedi cael ei datgelu ar gyfer cynhadledd Amaeth Cymru, sy’n cael ei drefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru ar y thema o ‘Gyfleoedd am dyfiant yn dilyn Brexit’.

Cynhelir y gynhadledd ar Hydref 6, yng Nghanolfan yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd i ddechrau am 9.30yb.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Alan Davies: “Nid cynhadledd am ffermio’n unig yw hon, rydym am gydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth yn ehangach, boed hynny gyda’r gadwyn gyflenwi, sut mae arian yn cylchredeg o fewn yr economi leol, lle mae pobl yn goroesi, lle mae elw’n cael ei wneud neu drwy gadw ein cymunedau a sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fynnu.  Am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd, mae yna gyfle yma i ni greu cynllun hirdymor sydd o fudd i Gymru.  Os byddwn yn canolbwyntio ar hynny - mi fydd yn digwydd.

“Mae’n rhaid i ni benderfynu beth yr ydym am i Gymru fod a'r hyn yr ydym am ei gyflawni.  Ein cyfrifoldeb ni yw llunio dyfodol cynaliadwy a proffidiol ar gyfer ein plant a’n hwyrion ac mae'n rhaid i ni gydnabod y cyfle gwych i lunio byd ôl-Brexit sy'n addas ar gyfer amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.  Mae'r gynhadledd hon, heb amheuaeth, yn gyfle i glywed beth sydd gan ystod eang o siaradwyr i’w ddweud, ac mi fydd yn llawn gwybodaeth i bawb sy'n credu bod amaeth o bwys wrth lunio ein heconomi wledig a sefydlu Cymru fel pwerdy gwledig.”

Catrin Haf Jones, newyddiadurwraig ITV Cymru fydd yn cadeirio’r gynhadledd.

Bydd siaradwyr y dydd yn cynnwys Prif Swyddog Strategaeth AHDB Tom Hind; Pennaeth Economeg a Pholisi Chymdeithasol a Cyfarwyddwr Ymchwil y ‘Policy Exchange’ a cyn aelod y Gr?p economyddion ‘Vote Leave’ Yr Athro Warwick Lightfoot; Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru Sophie Howe; Dirprwy Brif Weithredwr RWAS ac Ysgolhaig Nuffield Aled Jones; Swyddog Gweithredol Datblygu’r Farchnad Allforio Hybu Cig Cymru Deanna Leven          a sylfaenydd a chyfarwyddwr Environmental Systems, ymgynghoriaeth amgylcheddol ac amaethyddol Steve Keyworth.

Cyhoeddir enwau rhagor o siaradwyr maes o law.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’r paratoadau ar gyfer ein Cynhadledd Amaeth Cymru yn ei hanterth, ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio’r nifer o agweddau a chyfleoedd am dyfiant yn dilyn Brexit.

"Mae rhestr wych o siaradwyr gyda ni, sy'n arbenigwyr yn eu maes ac yn sicr o gynnig persbectif gwahanol a mewnwelediad i'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran ein heconomi, masnach, technoleg a’n cymunedau cymdeithasol.

"Rwyf am annog pawb sydd â diddordeb mewn #AmaethAmByth i archebu lle ar gyfer y gynhadledd cyn gynted â phosibl ar ein gwefan www.fuw.org.uk neu drwy ffonio ein prif swyddfa ar 01970 820280, gan fod llefydd ar sail y cyntaf i’r felin.”