Amlygwyd y pwysigrwydd o amddiffyn asedau da byw ar ffermydd gyda’r polisi yswiriant cywir mewn gweminar ar boeni da byw yn ddiweddar, a gynhaliwyd ar y cyd gan Undeb Amaethwyr Cymru a CFfI Cymru.
Dywedodd Gwenno Davies, Swyddog Gweithredol Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant FUWIS, wrth y dirprwyon y gallai ychwanegiad bach at yswiriant defaid presennol gostio cyn lleied â £3 y flwyddyn a chymryd y baich ariannol o golledion a achosir oherwydd ymosodiad ar dda byw.
“Er nad yw polisi yswiriant ar gyfer digwyddiadau o’r fath yn dileu torcalon y digwyddiad na’r straen o ddelio â’r sefyllfa, gall gwybod nad yw wedi cael effaith negyddol arnoch yn ariannol fod yn rhyddhad. Mae pob busnes fferm yn wahanol felly byddai angen i gleient wirio ei bolisi yswiriant yn benodol. Ond dylid ystyried ychwanegu’r yswiriant ychwanegol am gost mor isel, yn arbennig ar gyfer y tawelwch meddwl,” meddai Gwenno Davies.
Wrth egluro'r broses, dywedodd Gwenno Davies, er mwyn hawlio, byddai angen i gwsmeriaid gwblhau ffurflen hawlio, darparu llythyr milfeddyg yn cadarnhau'r anafiadau a gafwyd yn unol â manylion y digwyddiad, a phrisiad gan rywun fel arwerthwr.
“Byddwn bob amser yn argymell tynnu lluniau a thystiolaeth fideo hefyd. Os ydych chi'n adnabod perchennog y ci a bod gennych brawf, gallwch hefyd hawlio yn eu herbyn ar yswiriant cynnwys eu tŷ, yn lle cymryd y golled ar eich polisi eich hun, ”meddai.
Gydag ymosodiadau da byw ar gynnydd ledled y wlad a’r gwaith i newid y Ddeddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953 yn parhau, clywodd y dirprwyon hefyd sut mae Tîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru yn defnyddio technoleg i ymladd troseddau gwledig a chasglu tystiolaeth o ymosodiadau da byw.
Mae 10 fferm yn Nyfed-Powys ac wyth yng Ngogledd Cymru bellach wedi cael camerâu bywyd gwyllt, a bydd lluniau o'r camerâu yn cael eu darlledu'n fyw ar-lein yn fuan, gan ganiatáu i bobl weld yr amddiffyniad maent yn ei ddarparu.
“Mae cael tystiolaeth i gefnogi eich cais bob amser yn dda. Os gallwch chi osod technoleg o'r fath ar eich fferm, bydd yn helpu gyda'ch cais ac ymchwiliad yr heddlu. Er nad oes yna ateb syml i wella’r sefyllfa ar unwaith, rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio pob teclyn sydd ar gael ac mae sicrhau bod yr yswiriant cywir yn ei le yn rhan o hynny,” ychwanegodd.