Bum mlynedd yn ôl, cyn etholiadau Senedd Cymru 2016, rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) am yr heriau digynsail oedd yn wynebu Aelodau newydd y Senedd a’r Llywodraeth. Ers hynny mae'r heriau hynny, nid yn unig wedi dod yn realiti ond wedi gwaethygu ac ychwanegu atynt.
Gan amlinellu’r materion mawr sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd i’r wasg, a lansiodd Maniffesto Etholiad Senedd Cymru 2021 UAC, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae’n amlwg bellach bod ffurf llawer caletach o Brexit nag a addawyd gan y rhai a fu’n lobïo dros ein hymadawiad o'r UE wedi cyfyngu mynediad i'n prif farchnadoedd allforio ar y cyfandir.
“Ar yr un pryd, mae pandemig parhaus Covid-19 wedi newid ein bywydau y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd ac yn amlygu pa mor fregus yw’r cadwyni cyflenwi bwyd byd eang a phwysigrwydd cael sector ffermio cryf y gall ein marchnadoedd domestig ddibynnu arno am nwyddau.
“Er bod materion o’r fath wedi bod y tu hwnt i reolaeth ein gweinyddiaethau datganoledig i raddau helaeth, mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ansicrwydd a’r heriau sy’n wynebu ein sector amaeth wedi bod yn ddryslyd ac yn wrthgyferbyniol ar adegau, a hynny’n bennaf oherwydd yr awch i gynyddu costau a chyfyngiadau yn sylweddol wrth gynnig diwygiadau amhrofedig o bolisïau cymorth gwledig.”
Yn y cyfamser, mae toriadau Llywodraeth y DU i gyllid gwledig Cymru - mewn gwrthgyferbyniad uniongyrchol ag addewidion a wnaed dro ar ôl tro gan y rhai a oedd o blaid Brexit - wedi ychwanegu at y pwysau ar amaethyddiaeth Cymru, yr economi wledig a Llywodraeth Cymru, meddai Llywydd yr Undeb.
Trwy ei maniffesto a'i gwaith lobïo parhaus, mae UAC yn parhau i fod yn glir bod ffermydd teuluol Cymru wrth wraidd ein heconomi wledig, ein diwylliant a’n tirwedd, yn cefnogi cannoedd ar filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy'n ymwneud â diwydiant cyflenwi bwyd Cymru, ac yn cyfrannu’n helaeth at les trigolion Cymru a’r DU - ac un o’r buddion canolog hynny yw cynhyrchu bwyd, ein nwydd mwyaf gwerthfawr ochr yn ochr â dŵr.
“Wrth symud ymlaen mae angen polisïau arnom sy’n adlewyrchu’r angen i liniaru newid yn yr hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd, ond rhaid i ddyheadau o’r fath gael eu hatgyfnerthu gan y wybodaeth y bydd newidiadau ysgubol sy’n tanseilio ein ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd yn symud cynhyrchu i wledydd sydd â safonau lles anifeiliaid is ac olion traed byd-eang ac amgylcheddol uwch,” meddai Glyn Roberts.
Gan dynnu sylw at siom aelodau dros y blynyddoedd gyda Llywodraeth bresennol Cymru, ychwanegodd Mr Roberts, yn hytrach na theimlo bod pryderon y diwydiant wedi cael eu hystyried a gweld mesurau cymesur yn cael eu gweithredu i ddiogelu'r diwydiant amaethyddol, mae llawer yn ystyried yr arweinyddiaeth bresennol fel bradychiad o ddatganoli sy'n bygwth yn uniongyrchol y diwydiant amaeth, y diwylliant, yr iaith a'r ffordd o fyw sy’n rhan gynhenid a hanfodol o gynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, ychwanegodd: “Gyda hyn mewn golwg, nid wyf yn ymddiheuro am dynnu sylw at rwystredigaeth ein haelodau am ddiffyg polisïau pwrpasol i Gymru ynglŷn â chynigion cynllun ffermio yn y dyfodol a mynd i’r afael â materion ansawdd dŵr a gyflwynwyd gan Lywodraeth bresennol Cymru, a'r teimlad amlwg bod y rhai sy'n ein llywodraethu o Fae Caerdydd ymhellach o'n cymunedau gwledig nag erioed.
“Mae ffermwyr Cymru yn falch eu bod yn cynhyrchu bwyd o’r radd flaenaf i safonau amgylcheddol, iechyd a lles anifeiliaid, a diogelwch bwyd heb ei ail, ond mae angen rheoleiddio’r safonau hyn mewn modd cymesur sydd ddim yn rhwystro arloesedd, yn creu cyfyngiadau diamod, ac yn rhoi ffermwyr Cymru o dan anfantais gystadleuol ddifrifol yn erbyn cynnyrch amaethyddol gwledydd eraill.”
Mae pryderon o'r fath yn arbennig o berthnasol mewn cyfnod pan mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i geisio llofnodi cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu sy'n llawer is na'r rhai sydd eisoes yn ofynnol gan gynhyrchwyr bwyd o Gymru, ac er bod y dyhead i godi safonau ymhellach i roi mantais gystadleuol i’n cynhyrchwyr mewn marchnadoedd drutach yn ddealladwy, mae hefyd yn naïf o ystyried yr hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym am ddifaterwch eang cwsmeriaid tuag at safonau o'r fath yma ac o amgylch y byd.
“Ochr yn ochr â materion a blaenoriaethau allweddol eraill a amlinellir yn y maniffesto hwn, mae UAC yn annog Llywodraeth a Senedd nesaf Cymru i ddatblygu polisïau sy’n benodol i ac wedi’u llunio i Gymru sy’n adlewyrchiad o’r sefyllfa ar draws y byd yn ogystal ag anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a saith nod llesiant Cymru; polisïau sy’n cynnal ein safonau sydd eisoes yn uchel wrth sicrhau nad yw cynhyrchwyr Cymru yn cael eu tanseilio mewn ffyrdd sy’n arwain at fewnforio mwy o fwyd gan y rhai sydd â safonau llawer is na’n rhai ni,” meddai Llywydd yr Undeb.
Am gyfnod Senedd nesaf Cymru a thu hwnt, mae UAC wedi ymrwymo i lobïo pawb yng Nghaerdydd i sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn cael y sylw a'r parch y maent yn eu haeddu - er mwyn dyfodol pawb.
Mae copi o Faniffesto Etholiad Senedd Cymru 2021 UAC ar gael yn https://www.fuw.org.uk/cy/polisi/adroddiadau