Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi tynnu sylw at amrywiaeth o bryderon difrifol ynghylch effeithiau cytundeb masnach anfanteisiol ag Awstralia mewn cyfarfod â Gweinidog Polisi Masnach y DU, Greg Hands.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod ddydd Mercher (19 Mai), dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Cytunodd y gweinidog a minnau’n llwyr ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio cyfleoedd masnach newydd ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiannau eraill y DU.
“Fodd bynnag, gwnaethom ein pryderon ynghylch effeithiau niweidiol cytundeb rhydd ag Awstralia yn glir iawn.”
Dywedodd Mr Roberts y trafodwyd llu o faterion yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys y buddion posibl i amaethyddiaeth Cymru o aelodaeth y DU o’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer y Bartneriaeth Traws-Môr Tawel (CPTPP), y mae’r DU yn ei geisio ar hyn o bryd.
“Y gwir amdani yw y bydd cytundeb sy’n cynnig mynediad rhydd i farchnad y DU ar gyfer cig eidion a chig oen Awstralia yn benodol yn cyfateb i ostwng safonau ac yn arwain at ganlyniadau niweidiol i ffermwyr y DU.
“Er efallai na fydd hyn yn bryder uniongyrchol o ystyried allforion cyfredol i’r DU, mae’n rhaid i ni edrych ar yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol - wedi’r cyfan, pe na bai Awstralia’n credu y byddent yn cynyddu allforion bwyd i’r DU yn sylweddol ar ryw adeg, ni fyddent yn ymladd mor galed i sicrhau ei fod mewn cytundeb masnach.”
Dywedodd Mr Roberts fod yr undeb hefyd wedi tynnu sylw at y gagendor rhwng y safonau sy'n ofynnol gan ffermwyr yng Nghymru a'r DU, a'r safonau llawer is sy'n ofynnol yn Awstralia.
“Mae araith y Frenhines newydd ailadrodd cynlluniau Llywodraeth y DU i dynhau rheolau symud anifeiliaid, ac mae Cymru’n edrych ar ddilyn yr un trywydd.
“Ar hyn o bryd, ein hamser teithio uchaf ar gyfer anifeiliaid yw wyth awr, ond yn Awstralia mae hi’n bedwar deg wyth awr - chwe gwaith yn uwch. Mae pryderon eraill yn cynnwys y gwahaniaethau sylweddol rhwng gofynion olrhain anifeiliaid, o ystyried y byddai'r hyn a ganiateir yn Awstralia yn gwbl anghyfreithlon yma.”
Dywedodd Mr Roberts fod y rhain ymhlith y llu o wahaniaethau a phryderon yr oedd yn gobeithio bydd y gweinidog a Llywodraeth y DU yn cymryd i ystyriaeth.
“Ni ddylai’r pwysau gwleidyddol ar y Llywodraeth i gyhoeddi cytundeb fasnach ddiystyru dyletswydd llywodraeth y DU i drafod cytundeb sy’n cynnal ei haddewidion ei hun a’n gwerthoedd trwy atal bwyd a gynhyrchir i safonau is rhag cael ei werthu yn y DU - pa mor hir bynnag y bydd y negodi hwnnw’n ei gymryd, neu hyd yn oed os yw’n golygu dod a'r trafodaethau i ben” ychwanegodd.