Mae teulu ffermio o Ogledd Cymru yn arwain y ffordd wrth edrych ar ôl yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd, ar ôl ymgymryd â gwaith adfer helaeth o fawndir ar eu fferm yn ddiweddar ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Phrosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Mawndiroedd Cymru i ddatblygu'r prosiect Cod Mawndir cyntaf yng Nghymru.
Mae'r teulu Roberts, sydd wedi ffermio yn Fferm Pennant, Llanymawddwy ers sawl cenhedlaeth, yn cadw gwartheg bîff a defaid, defaid mynydd yn bennaf a rhai croesfridiau. Maent hefyd yn cadw buches sugno fach a defaid croesfrid ar dir isel ac mae'r teulu wedi arallgyfeirio i lety gwyliau. Mae yna ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb o ran edrych ar ôl yr amgylchedd a chreu cynefinoedd bioamrywiol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.
Wrth wireddu eu huchelgeisiau amgylcheddol, aeth aelodau Undeb Amaethwyr Cymru, Lisa a Sion Roberts, ati i wneud gwaith adfer i ail-broffilio a chau torlannau mawn a rhigolau ar draws safle Bwlch y Groes, a contractwyr mawndir profiadol fu’n gyfrifol am y gwaith ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021.
Trwy adfer y safle amcangyfrifir y bydd 2,335 tunnell o allyriadau carbon yn cael eu hatal rhag cael eu rhyddhau dros y 35 mlynedd nesaf, sy’n fras yn gyfwerth â’r cyfaint o garbon deuocsid a gynhyrchir wrth losgi llond 632* tanc domestig o olew. Ar hyn o bryd mae'r allyriadau o fawndiroedd diraddiedig yn y DU yn cyfrif am 4% o gyfanswm yr allyriadau cenedlaethol, gan wneud adfer mawndir yn hanfodol bwysig ar gyfer targedau hinsawdd genedlaethol.
Mae Lisa Roberts, yn esbonio hanes y prosiect: “Roeddwn i ar gyfnod mamolaeth gyda'n hail blentyn, ac yn meddwl bod yn rhaid bod rhywbeth y gallwn ei wneud gyda'r mawn sydd gyda ni ar y mynyddoedd, yn yr un modd â chod carbon y coetir. Edrychais i mewn iddo a darganfod bod prosiect ar y gweill gyda'r Parc Cenedlaethol. Hwn oedd y cyntaf o'i fath ac yn gynllun peilot. Ar ôl llawer o ymchwil, achubwyd ar y cyfle a chychwynnodd y broses. Heddiw, mae'r prosiect adfer mawndir 65.77 hectar wedi'i gwblhau'n llwyddiannus yma ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri."
Yn rhedeg ar hyd ymyl ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri, mae ardal y prosiect o fewn y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd, sydd, yn 2,209 ha, yn un o'r ardaloedd mwyaf o rostir yr ucheldir yn Ewrop. Mae safle adfer mawndir Bwlch y Groes yn gors helaeth wedi'i lleoli mewn bwlch i'r gorllewin o Lyn Efyrnwy sy'n swatio rhwng Aran Fawddwy a mynyddoedd Berwyn yn ne Eryri.
Dywedodd Lisa: “Roeddem yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawsom ar gyfer y prosiect hwn oherwydd bod gennym y Parc Cenedlaethol, roeddent yn rhan o'r prosiect ac yn awyddus iddo weithio. Cawsom gefnogaeth o'r dechrau - cael y cyllid, dechrau'r gwaith adfer i werthu'r credydau carbon. Fy mhrif bryder yw y bydd y ffermwr cyffredin, nad oes ganddo gefnogaeth Parc Cenedlaethol, yn ei chael hi'n anoddach gwerthu'r credydau carbon. Mae'n brofiad newydd. Mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n ei gael yn iawn os ydych chi am gael y cyllid carbon hwnnw ar y diwedd. Mae'n rhaid ei ddilysu ac mae'n rhaid i chi ofalu amdano am o leiaf 30 mlynedd. Mae'n ymrwymiad mawr ond y gellir ei gyflawni gyda'r gefnogaeth gywir ar gael.”
Mae cyllid i gyflawni’r prosiect wedi dod o gyfuniad o gefnogaeth gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Mawndiroedd Cymru a chyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020), ochr yn ochr ag incwm carbon o werthu credydau carbon.
Mae’r ardal amgylchynol yn cynnal y darn helaethaf trwy Gymru o gors sydd fwy neu lai’n gwbl naturiol, a hefyd yr ardal ucheldir pwysicaf ar gyfer adar sy’n magu, yn cynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae safle'r prosiect yn gorwedd o fewn nifer o ardaloedd ACA, AGA a SoDdGA dynodedig. Yn ogystal ag atal colli carbon o'r safle a diogelu'r storfa sylweddol o garbon sydd yn y mawndir, rhagwelir daw buddion eraill yn sgil y gwaith fel gwell ansawdd dŵr, llif dŵr mwy cyson, mwy o fioamrywiaeth, a gwella amodau cynefin ar gyfer infertebratau dŵr croyw. Fodd bynnag, nid yw'n alwad am gael gwared â da byw o'r mynydd.
“Mae ffermio da byw ac edrych ar ôl yr amgylchedd yn mynd law yn llaw yma. Rydym wedi cadw defaid a gwartheg yma ar y mynydd. Maent yn rhan hanfodol o gadw'r fioamrywiaeth i ffynnu yma ar y mynydd. Dydw i ddim eisiau meddwl sut olwg fyddai arno pe na baent yma, unllystyfiant fyddai yma i raddau helaeth. Mae'n ymwneud â rheoli, nid gor-stocio. Mae angen i ni reoli'r hyn sydd gennym a'i reoli'n dda i hyrwyddo'r fioamrywiaeth honno ar y mynydd hwn. Mae'r gwartheg sydd yma wedi gwella'r tir, wedi agor y glaswelltau ac yn helpu i reoli brwyn a chorlwyni fel grug sy'n sychu'r mawn. Mae'r cyfan yn rhan o'r ecosystem a sut y cafodd ei reoli ers canrifoedd,” esboniodd Lisa.
Yn ymwybodol o ganfyddiad y cyhoedd o ffermio a’r pryder sylfaenol ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, mae Lisa a Sion yn glir bod ffermio yma yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â phryderon o’r fath. “Mae pobl yn fwy craff nawr ac yn gofyn o ble mae eu bwyd yn dod. Maent yn poeni mwy am ôl troed carbon y cynnyrch. Mae mwy o bwysau ar y diwydiant, fodd bynnag, mae angen i ni weiddi ychydig yn uwch am y gwaith da rydyn ni'n ei wneud. Mae hon yn enghraifft dda o hynny ac mae yna lawer o waith da arall yn digwydd ledled y wlad,” meddai Sion Roberts.
“Nid yw ffermwyr yn gyfrifol am ddinistrio'r amgylchedd. Yn gyffredinol, pan gewch yr ystadegau mawr hyn, cewch olwg gyffredinol fyd-eang ar amaethyddiaeth ac mae ymhell o'r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru. Rydym ar y blaen i lawer o wledydd eraill o ran edrych ar ôl yr amgylchedd. Byddai'n braf gweld trwy gynlluniau amaeth-amgylchedd fel Glastir faint o wrychoedd sydd wedi'u plannu a choetiroedd sydd wedi'u creu eisoes. Byddai'r ystadegau hynny'n eithaf anhygoel. Mae angen i ni fod yn well am gipio a chyhoeddi’r wybodaeth honno. Mae cymaint o ffermwyr hefyd bellach yn ceisio gwella effeithlonrwydd ffermydd trwy leihau diwrnodau i dorri a gwneud gwell defnydd effeithiol o laswellt, mae'r cyfan yn helpu pan ddaw at ein hôl troed carbon fel diwydiant,” ychwanegodd Lisa.
Mae'r teulu bellach hefyd yn edrych ar blannu coed i wella eu hôl troed carbon ymhellach. “Nid ydym wedi penderfynu ar faint eto ac nid ydym yn mynd i blannu’r fferm gyfan yn llawn coed. Ar hyd o bryd rydym yn ystyried rhannau serth y tir, lle na allwn gael y tractor i, a lle na allwn bori llawer o dda byw a lle mae wedi'u gorchuddio â rhedyn. Rydyn ni wedi nodi rhai parseli bach o dir lle rydyn ni'n meddwl nad ydyn nhw'n gynhyrchiol iawn o ran cynhyrchu bwyd ac rydyn ni'n gobeithio eu troi'n barseli coetir bach a gwerthu'r credyd carbon neu eu rheoli at ein dibenion ein hunain,” meddai Lisa.
Nid yw uchelgeisiau i leihau ffermio da byw dan ffurf atal newid yn yr hinsawdd mewn sefyllfa dda yn ôl teulu Roberts. “Trwy wahanol gynlluniau amaeth-amgylchedd fel Glastir bu’n rhaid i ni leihau nifer y da byw yma ond yn sicr ni allent fynd unrhyw is. Mae'r da byw yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli'r dirwedd a'r amgylchedd hwn. Maent yn gwella bioamrywiaeth ac mae'n creu cynefinoedd. Mae hon yn ardal SoDdGA ac mae gennym amrywiaeth enfawr o rywogaethau yn ffynnu ar y tir. Rydym yn monitro hynny fel rhan o'r SoDdGA. Mae pori yn hanfodol ar gyfer y fioamrywiaeth honno. Nid yw'n ymwneud â lleihau nifer y da byw, mae'n ymwneud â gwella effeithlonrwydd cynhyrchu,” ychwanegodd Sion.
“Mae'n syniad da i feddwl y tu allan i'r bocs lle gallwch chi a gwthio'ch busnes ymlaen. Ffactor sy'n cyfyngu ar fferm fynydd fel hyn yw cynyddu nifer y da byw. Nid oes gennym y tir i ehangu da byw heb lawer o iseldir ar gael i ni. Felly roedd angen i ni edrych ar ffyrdd eraill fel hyn, sydd wedi caniatáu i ni wella ein perfformiad amgylcheddol. Ffermio yw ein bywyd. Cefais fy magu ar fferm, priodais ffermwr ac yn ystyried fy hun yn ffermwr - nid gwraig ffermwr yn unig. Rwy’n angerddol am ffermio ac mae angen i bobl ddeall y gallwch gynhyrchu bwyd law yn llaw â’r amgylchedd. Mae angen herio canfyddiad y cyhoedd bod cynhyrchu bwyd yn ddrwg i’r amgylchedd ac mae hon yn un enghraifft, fel llawer o rai eraill yng Nghymru, o sut y gall weithio gyda’i gilydd,” meddai Lisa.