Mae’n rhaid i natur, cadwraeth a chynhyrchu bwyd fynd law yn llaw, yn ôl Carwyn Jones, ffermwr bîff a defaid o Sir Drefaldwyn. Mae'n ffermio yn Nhŷ Mawr, Dolanog yn Nyffryn Efyrnwy tua 14 milltir o'r Trallwng a 6 milltir o lyn Efyrnwy. Mae'r fferm bîff a defaid 160 erw wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau lawer, gyda Carwyn yn cymryd rheolaeth lawn o'r daliad oddi wrth ei ewythr yn 2002.
Wrth ddisgrifio’r tir dywed: “Mae’r rhan fwyaf o’r tir yma yn eithaf serth. Nid oes llawer o bridd, tua 2 fodfedd o bridd a 2 filltir o graig. Felly mae'n rhaid i mi reoli hynny'n ofalus. Mae gennym lawer o goetir o amgylch y fferm ac rwyf hefyd yn edrych ar ôl oddeutu 30 erw o'n coetir ein hunain ar y fferm. Mae cymaint o amrywiaeth o rywogaethau adar a bywyd gwyllt o gwmpas ac rwy’n credu’n gryf bod hynny’n bodoli oherwydd sut mae’r tir hwn yn cael ei reoli.”
Yn blygwr gwrych penigamp, mae Carwyn wedi sefydlu dros filltir o wrychoedd wrth ochr y fferm ar bob ochr i'r trac ac wedi plannu dros 600 o blanhigion gwrychoedd newydd yn ddiweddar. “Ar y cyfan, rydw i'n edrych ar ôl tua 4 milltir o wrychoedd ar dir y fferm. Rwyf bob amser wedi bod yn ffan o wrychoedd a choed. I mi, rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud o ran natur a gwaith cadwraeth am y cariad o'i wneud. Rwy'n dwlu ar wrychoedd a'r buddion a ddaw yn eu sgil i'r tir a bywyd gwyllt."
Fodd bynnag, mae Carwyn yn glir na ellir eithrio da byw o'r sgwrs. “Mae'r da byw a'r tir yn cydweithio'n dda. Rwy'n cadw defaid Cymreig, ac nid wyf yn eu croesi ag unrhyw beth arall. Rydw i hefyd yn cadw gwartheg croes Henffordd. Nid yw'r fferm yn gynhyrchiol iawn, nid wyf yn ei ffermio i'w llawn botensial - mewnbwn isel ydyw. Fel y mae nawr, mae’r defaid Cymreig a’r gwartheg yn gweddu’n dda iawn iddo. Fyddwn i ddim eisiau gormod o fridiau cyfandirol. Rwy'n eu croesi â tharw Charolais ond rydych chi eisiau gwartheg eithaf gwydn i fyny yma. Mae'r da byw yn chwarae rhan hanfodol o ran bioamrywiaeth,” esboniodd Carwyn.
Wrth gerdded ar draws y caeau, a gwerthfawrogi’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, meddai: “Y gair mawr yw ail-wylltio, sy'n swnio'n dda ar bapur. Ond pe baem yn mynd â'r holl dda byw i ffwrdd o'r fan hon, nid wyf am ddychmygu sut olwg fyddai ar y dirwedd hon. Ni fyddech yn gallu gweld y coed gan brennau. Mae pobl yn dweud bod ffermwyr yn dinistrio ein tirwedd hardd ond pam maen nhw'n ei alw'n brydferth? Mae'n brydferth oherwydd y ffordd y mae'n derbyn gofal ar hyn o bryd. Y ffermwyr sy'n gwarchod y tir ac mae yna gylch bywyd i'r cyfan. Rydyn ni'n gweithio gyda natur.
“Mae'r tir rydyn ni arno nawr angen cymysgedd o ddefaid a gwartheg arno. Pe baem ond yn cadw defaid yma ni fyddem yn cael yr un fioamrywiaeth. Mae'n rhaid i chi gael tail ar gaeau. Mae gen i'r comin ar un ochr, ucheldir ar yr ochr arall a rhywfaint o iseldir, yn ogystal â'r afon. Mae gennym gynefin unigryw yma ar y fferm ac rydw i eisiau ei wella ymhellach.
“Rwy’n credu fy mod yn un o’r cadwraethwyr mwyaf yr ardal yn ôl pob tebyg. Yr oedd fy nhaid ac ewythr yr un fath hefyd. Roedden nhw hefyd yn erbyn chwistrellu a gwrteithio'r ddaear, gan wthio'r tir yn ormodol. Mae eu hethos o edrych ar ôl y tir wedi dylanwadu arnaf. 1989 oedd y tro diwethaf i unrhyw wrtaith gael ei roi ar y ddaear yma. Mae'r fferm yn hollol naturiol. O bosib fy mod i'n fwy organig yma na rhai o'r ffermydd ardystiedig."
Nid yw dull pori'r fferm wedi newid llawer ers i dad-cu Carwyn ffermio’r tir ond mae’r lefelau stocio wedi gostwng i sicrhau bod defaid a natur yn ffynnu. “Y peth cyntaf wnes i wrth gymryd yr awenau oedd gostwng niferoedd y defaid o tua thraean. Roedd gormod ohonynt, a heb wrteithio ni fyddai porfa ar eu cyfer. Nawr mae gennym ni fwy o flodau a lle mae'r gwartheg, mae'r fioamrywiaeth wedi cynyddu’n aruthrol. Bellach mae gan y tir fwy o amser i anadlu, sy'n rhoi gwell planhigion ac anifeiliaid i ni.
“Mae'r blodau menyn a blodau eraill yn y dolydd yn gwneud rhyfeddodau i'n peillwyr hefyd. Mae gen i ddolydd gwair gwych oherwydd bod nhw’n naturiol ac nid ydynt yn cael eu gorfodi. Rwyf wedi cadw'r dolydd yr un peth ers y cychwyn, nid wyf yn rhan o unrhyw gynllun cyfyngol sy'n bwriadu'n dda, ond yn y diwedd yn creu'r gwrthwyneb i'r hyn a ddymunir yn y lle cyntaf,” meddai.
Wrth gerdded lawr i edrych ar y defaid sy'n pori ger afon Efyrnwy, gan basio gwrychoedd blodeuol yr haf, ychwanega Carwyn: “Yr hyn sy'n rhaid ei ddeall yw bod pob gwlad yn wahanol ac nid yw ein systemau ffermio yma yng Nghymru yn debyg i’r rhai sydd yn Ne America er enghraifft. Mae'r difrod a wnaed i’r amgylchedd gan rai o'r gwledydd hynny yn dorcalonnus ac nid dyna'r hyn a wnawn yma yng Nghymru.
“Mae’r da byw yma yn pori ar dir organig fwy neu lai, maent yn cael eu bwydo'n naturiol ac rydw i'n cadw safon uchel o iechyd a lles. Nid dyna sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ac mae angen i ddefnyddwyr yn ogystal â gwleidyddion weld y gwahaniaeth clir hwnnw. Rydw i yn erbyn ffermio dwys, ond ofnaf ein bod ni'n cael ein gwthio i mewn iddo ar ddamwain. Gyda rhai o'r rheoliadau sy’n bodoli nawr, ni fydd y fferm deuluol fach yn gallu cadw i fyny, a bydd y ffermydd mawr yn cymryd drosodd, gan lyncu ffermwyr bach fel ni."
Er bod y fferm mor organig â phosibl, nid yw Carwyn yn rhy hoff o rai o'r cynlluniau amaeth-amgylchedd a gynigir. “Grantiau Bach Glastir yw’r unig gynllun rydw i wedi cymryd rhan ynddo, sydd yn bennaf ar gyfer gwrychoedd a gwaith ffin. Mae angen i ffermwyr gael mwy o ddweud yn yr hyn maent am ei wneud, yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio i'r tir maent yn ei ffermio. Mae angen teilwra cynlluniau i'r fferm a'r ardal benodol, yn hytrach na’r un dull i bawb.
“Nid ydym yn y cynlluniau hyn i wneud arian. Ond mae angen i ni allu dweud beth sy'n gweithio a beth sydd ddim. Nid oes gen i wrychoedd wedi methu ar y fferm ac maent wedi eu profi hefyd, gyda'r gwanwynau sych. Rwyf wedi plannu lle mae'n gweithio ac nid ar hap yn unig er mwyn ticio blwch ar ffurflen. Ni allwch blannu coed a gwrychoedd yn unrhyw le yr hoffech chi. Rydw i wedi creu lleiniau clustogi, cysgod ar gyfer da byw ac adar gyda'r gwrychoedd ychwanegol rydw i wedi'u plannu ac maent wedi gweithio'n dda iawn.
“Rhaid iddo fod yn werth chweil i’r ffermwyr gymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd. Fel rheol, y ffermwyr bach, fel fi, sy'n agored i'r cynlluniau hyn ond nid ydym yn cael y gwobrau ariannol amdano fel y dylem. Nid oes a wnelo o gwbl a bachu arian, ond byddai gwell gwobr yn annog mwy o bobl i gymryd rhan wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon,” meddai.
Wrth fynd i’r afael â honiadau o lygredd wrth iddo edrych ar draws yr afon sy’n mynd drwy’r fferm, dywedodd Carwyn: “Ni allaf weld sut mae’r ffordd rwy’n ffermio yn llygru mwy na phe na bai fferm yma a dim ond anifeiliaid gwyllt yn crwydro o gwmpas. Does gen i ddim slyri gan fod y da byw yn cael eu cadw y tu allan a dim ond 15 o wartheg sydd yma beth bynnag. Arolygwyd y fferm a’r afon Efyrnwy sy'n rhedeg trwy'r tir yma ac mae'r adroddiad wedi dod yn ôl i ddweud ei fod yn lân iawn heb unrhyw lygredd a bod y bywyd dyfrol yn ffynnu. Mae'n rhwystredig iawn pan fydd y diwydiant cyfan yn cael ei bardduo fel yna, a bod hi’n ofynnol i ni i gyd wario arian ar bethau fydd ddim yn gwneud gwahaniaeth i’r mwyafrif o ddaliadau.
Wrth barhau i fynd o amgylch y fferm, gan edrych ar y gwrychoedd sydd newydd eu plannu a'r gwartheg, meddai: “Mae gennym ni bob aderyn bach y gallwch chi feddwl amdano yma, fodd bynnag, mae rhai adar a oedd yma ar y comin 30 mlynedd yn ôl, fel cornchwiglod a’r gylfinirod, wedi diflannu. Rwy'n meddwl bod hynny oherwydd ysglyfaethwyr naturiol fel moch daear. Pan oedd yr ysglyfaethwr naturiol yn cael ei reoli, roedd digon o gornchwiglod yma.
“Nid oes unrhyw beth arall wedi newid yma. Mae poblogaeth y moch daear wedi cynyddu yma yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf a bellach prin fod yr un o'r adar hyn ar ôl. Roedd y gylfinirod yn arfer nythu ar y cae uchaf, a dim ond un dwi wedi clywed eleni. Yn y 1970au, mi fyddech yn clywed nifer ohonynt a byddai heidiau o gornchwiglod ar y comin. Mae gan ffermio rhan i'w chwarae mewn rhai dirywiadau ond yn sicr nid o gwmpas yma.”
Mae materion eraill, fel TB, hefyd yn pwyso’n drwm ar feddwl Carwyn a dywed eu bod yn fygythiad gwirioneddol i ffermydd teuluol bach yng Nghymru. “Os na wneir dim a bod yr holl wartheg yn mynd, yna ni fyddwn yn gallu edrych ar ôl yr amgylchedd yn ffordd yr ydym yn ei wneud nawr. Gwartheg yw'r cadwraethwyr gorau sydd gennym. Edrychwch ar y gwahaniaeth rhwng tirwedd sy'n cael ei bori gan ychydig o wartheg a defaid ac un sydd ddim - does dim amheuaeth bod pori cymysg yn darparu canlyniadau gwell. Mae'n fy nhristáu, oherwydd llwfrdra'r llywodraeth, fod y rhywogaethau y maent yn addo eu gwarchod, yn dirywio mewn gwirionedd, ac mae ein bywoliaeth a'r amgylchedd yn cael eu peryglu."
“Yn anffodus, i bwynt, mae systemau ffermio fel un ni yma dan fygythiad. Dim ond nifer fach o wartheg yr wyf yn eu cadw ond nid wyf yn siŵr sut y gallwn gystadlu â ffermwyr o ochrau eraill y byd sydd ddim o dan yr un rheolau a rheoliadau. Mae'n fy mhoeni. Rydym yn cadw ein system ffermio yn naturiol, gyda lefelau stocio isel. Gallwch chi ffermio a bod yn gadwraethwr. Mae’n gweithio law yn llaw ond mae’n rhaid rhoi cyfle i ni wneud hynny,” ychwanegodd.