Teulu amaethyddol o Sir Benfro sy'n croesawu cadwraeth bywyd gwyllt a chynhyrchu bwyd

Mae gan ffermio rhan allweddol i'w chwarae wrth ofalu am yr amgylchedd a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond rhaid peidio ac eithrio cynhyrchu bwyd o'r sgwrs, meddai Jayne Richards, ffermwr bîff, defaid ac âr o Sir Benfro.

Nid oes amheuaeth gan Jayne, sy'n ffermio gyda'i rhieni Michael a Margaret a'i gŵr Ali yn Fferm Jordanston, Parc y Santes Fair, Trefwrdan, ychydig y tu allan i Aberdaugleddau, Sir Benfro, oni bai am ffermydd teuluol bach ledled y wlad byddai'r amgylchedd yn dioddef. Byddai edrychiad esthetig cefn gwlad Cymru yn newid yn ddramatig, gyda chymunedau gwledig yn cael eu colli.

Fodd bynnag, mae'r teulu'n glir bod gan gynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd ran hanfodol i'w chwarae ac ni all un weithredu heb y llall.

Mae'r fferm 350 erw, sydd yng nghynllun Glastir, yn gartref i 400 o ddefaid magu a 140 o wartheg bîff, yn ogystal â buches sugno fach. Mae'r teulu'n cadw defaid hanner-brid Cymreig yn bennaf ac yn magu hyrddod Texel eu hunain a defaid amnewid. Maent hefyd yn cadw rhai ŵyn stôr yn yr hydref a'r gaeaf i’w pesgi ar gnydau gwreiddiau.

Mae'r teulu'n tyfu porthiant eu hunain ar gyfer y gwartheg, gan gynnwys silwair, gwywair, gwenith a haidd, ac yn rhentu 20 erw allan ar gyfer cynhyrchu tatws. Mae 50 erw o goetir yn amgylchynu'r fferm, gan greu coridor bywyd gwyllt mawr sydd wedi bod yn fuddiol i fywyd gwyllt ar y fferm a hefyd o ran storio carbon.

Prynodd tad-cu Jayne y fferm yn yr 1950au ac ar y pryd roedd yn fferm anheddu tir i lowyr a ddaeth i lawr o'r cymoedd. Gan egluro hanes y fferm, dywed Jayne: “Gallai’r glowyr a ddaeth yma naill a’i weithio ar y fferm neu roedd ganddyn nhw dŷ eu hunain gyda thŷ gwydr ac yn cadw mochyn i’w hunain. Roeddent yn weddol hunangynhaliol bryd hynny. Arferai’r fferm fod yn ddaliad garddwriaeth a hefyd yn tyfu llysiau.

“Roedd Jordanston yn eithaf dwys bryd hynny, roedd pob modfedd o’r tir yn cynhyrchu ac roedd gan y fferm ei huned moch ei hun, yn ogystal â phlanhigfa arddwriaeth. Pan brynodd fy nhad-cu'r fferm tyfodd datws a chadw defaid a gwartheg bîff.”

Ers hynny mae'r teulu wedi parhau fwy neu lai yn yr un modd. Mae gofalu am y tir a chynhyrchu bwyd bob amser wedi mynd law yn llaw. Dywedodd Jayne, a arferai weithio yn nhîm Tir Gofal, fod y cynlluniau amgylchedd yn hanfodol bwysig ond mae'n rhaid i gynhyrchu bwyd a'r busnes ffermio presennol weithio ochr yn ochr â'r cynlluniau.

“Pan ddechreuodd Tir Gofal gyntaf gwnaethom gynllun ar gyfer y fferm gan ystyried yr elfen bywyd gwyllt ond hefyd yr agwedd fusnes masnachol. Llwyddon ni i wneud cryn dipyn o bethau o amgylch y fferm a oedd yn gwella'r hyn sydd yma ac yn gwella pethau ar gyfer y dyfodol. Ymhlith llawer o bethau rydyn ni wedi adfer gwrychoedd, rydyn ni'n gofalu am 6 pwll dyfrhau gyda 3 ohonyn nhw wedi'u hamgylchynu gan lwyni, cynefin gwych i fywyd gwyllt ond hefyd yn storfa garbon. Mae'r pyllau hyn wedi'u ffensio fel coridorau bywyd gwyllt ac maent yn cysylltu'n uniongyrchol â'r coetir. Rydyn ni hefyd yn gadael sofl ar gyfer adar sy'n gaeafu.

“Mae bod yn fferm gymysg yn beth da i fywyd gwyllt oherwydd does gennych chi ddim cymaint o ungnwd, gallwch gynhyrchu bwyd cynaliadwy gyda chynefin ar ôl ar gyfer bywyd gwyllt rhwng y cnydio, sy'n gwella symudiad rhywogaethau o amgylch y fferm.

“Rydyn ni'n cylchdroi'r cnydau bob 3 blynedd gan gynnwys swêds, haidd, gwenith a phorfa, sy'n dda i'r pridd. Mae'n rhaid i'r pethau hyn weithio gyda'n gilydd ac mae ffermydd fel un ni yn ei reoli'n eithaf da,” esboniodd.

Fel rhan o'u gwaith amgylcheddol mae'r teulu wedi adennill y pwll ym mlaen y tŷ ac wedi plannu 2 filltir o ddraen brodorol a choed gwrych i greu gwrych Sir Benfro. “Mae ein gwrychoedd wedi hen ennill eu plwyf nawr ac yn darparu cynefin rhagorol i adar. Y llynedd fe wnaethom hefyd gynnwys stribed o flodau gwyllt ac roedd yn hyfryd gweld y pabïau, blodau'r corn, llygad y dydd a llawer o fathau eraill - gwnaeth ryfeddodau i'r adar a'r pryfed yma ar y fferm. Rydyn ni'n ceisio gwneud llawer o bethau bach ac fel teulu rydyn ni'n mwynhau'r bywyd gwyllt, ond mae'n rhaid i ni hefyd fyw a gwneud elw. Mae'n ymwneud â chydbwysedd,” meddai.

Wrth gerdded o amgylch y fferm mae Jayne yn egluro hanes y pyllau dyfrhau sy'n gwella bywyd gwyllt yn gadarnhaol ac yn creu cynefinoedd bioamrywiol. “Sefydlwyd y pyllau yn wreiddiol i ddyfrhau tatws a dyfwyd am nifer o flynyddoedd yma yn Jordanston. Maent wedi'u gwasgaru o amgylch y fferm felly roeddem yn gallu cael pibellau dyfrhau i wahanol rannau o'r fferm. Mae un ohonynt dros 50 mlwydd oed. Dros y blynyddoedd mae'r pyllau wedi bod yn llwyddiannus iawn o safbwynt bywyd gwyllt hefyd. Heddiw, mae gennym grehyrod, giächod, llawer o wahanol rywogaethau o hwyaid ac ieir dŵr yma ac mae'n braf eu gweld. Mae'r pyllau'n dal i gael eu defnyddio at ddibenion dyfrhau.

“Mae gennym goridorau ar lan y nant nawr hefyd sy'n amddiffyn y cynefin ac nid yw'r anifeiliaid a oedd yn yfed o'r ochr yn erydu'r glannau mwyach. Gwelsom ddyfrgi hyd yn oed ar un o’r pyllau ar y fferm.”

Mae'r tir a'r fferm o bwysigrwydd hanesyddol ac mae cadw'r adeiladau a'r ffordd o fyw'r un mor bwysig i Jayne â'r cefn gwlad a'r coetir sy'n ei amgylchynu. Meddai: “Gallwch chi deimlo'r hanes wrth i chi gerdded o gwmpas ac rwy'n arbennig o hoff o'n coetir, sy'n cynnwys coed llydanddail fel yr Onnen, Sycamorwydden, Ffawydd a Derw.

“Mae’r dylluan frech yn y coetir, ac fe wnaethon ni ffensio’r coetir i ffwrdd i’w adfywio flynyddoedd yn ôl. Byddai’n dda ei bori ychydig bach ond ar hyn o bryd o dan Glastir nid yw hynny’n opsiwn mewn gwirionedd. Mae angen i ni greu ychydig o lannerch yn y coetir a byddai pori yn helpu gyda hynny. Byddai'n helpu'r infertebratau a'r adar hefyd. Mae'r mieri yn mynd yn eithaf toreithiog yno nawr ac mae'n dangos bod angen ychydig o reoli tir cydymdeimladol er budd yr amgylchedd. Os nad yw tir yn cael ei reoli, bydd gormod o'r un gordyfiant a phrysgwydd yn y pen draw sydd ddim yn cynnal ystod mor eang o rywogaethau ac nad yw'n dod a fawr o ddefnydd i unrhyw un neu unrhyw beth."

Tra bod y teulu'n frwd dros edrych ar ôl y bywyd gwyllt a gofalu am yr amgylchedd, mae un peth yn glir.  Er mwyn i un agwedd weithredu'n iawn, mae angen gwerthfawrogi’r llall, sef cynhyrchu bwyd a rôl y da byw. “Mae'r da byw yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer ein hincwm ond mae'r ffordd maent yn pori'r tir yn helpu i sicrhau bod y tir a'r pryfed yma'n ffynnu hefyd. Pe na bai'r da byw yma, byddai'r cyfan yn mynd yn wyllt ac yna ni fyddech yn gallu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth. Nid yw pobl yn siarad am y pethau da y mae ffermwyr yn eu gwneud, dim ond y pethau maen nhw'n meddwl nad ydyn ni'n eu gwneud. Mae'r da byw yn hanfodol ym mhopeth sy'n digwydd yma.

“Pe na bai ffermydd fel ein un ni yma, nid y tir a’r bywyd gwyllt yn unig fyddai’n dioddef. Mae seilwaith cefn gwlad yn dibynnu ar fusnesau amaethyddol. Rydyn ni'n teimlo'n gysylltiedig iawn â'r tir; mae'n estyniad o'n cartref ac rydym yn poeni beth sy'n digwydd iddo. Ein cyfrifoldeb ni yw ein caeau ni ac rydym yn cymryd hynny o ddifrif,” meddai Jayne.

Cafodd llawer o elfennau Tir Gofal eu trosglwyddo i gynllun Glastir yma ac mae Jayne yn teimlo’n gryf ei bod yn bwysig bod mewn cynllun amaeth-amgylchedd, nid yn unig o safbwynt amgylcheddol ond o safbwynt busnes hefyd.

“Mae’n adlewyrchu sut rydych chi'n ffermio ac mae eich cwsmeriaid eisiau gweld bod chi'n ymwybodol o'r amgylchedd. Mae llawer o ffermwyr yn gwneud gwaith amgylcheddol, fel rhan o waith y fferm, heb sylweddoli'n iawn fod yr hyn maen nhw'n ei wneud yn fath o gadwraeth ond nid oes ganddo enw bob amser.

“Mae ffermio yma yng Nghymru mor wahanol i rannau eraill o’r byd. Ni allwch ddosbarthu pob fferm yn yr un modd. Mae'r math o ffermio yn newid yn ôl lleoliad daearyddol, yr hinsawdd a'r math o bridd, ni fydd un system yn addas i bawb. Ni allwch gyfuno popeth mewn crynodeb byd-eang.

“Rwy’n teimlo’n eithaf blin pan fydd y diwydiant yma yng Nghymru yn cael ei gyhuddo a’i bortreadu fel rhywbeth drwg i’r amgylchedd a gwaethygu newid yn yr hinsawdd. Nid yw ffermio yn waith hawdd, mae llawer o ffermwyr yn gwella pethau ar gyfer bywyd gwyllt ac yn annog yr amgylchedd i ffynnu. Yn anffodus nid oes sôn am yr agwedd honno, yr ochr negyddol sy’n cael ei chlywed bob tro.

“Mae yna rai materion wrth gwrs, ond mae hynny'r un mor wir am ddiwydiannau eraill. Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ceisio eu gorau i fynd i'r afael â'r materion amgylcheddol hyn, ond mae yna ffyrdd a modd i weithredu newid. Ni ddylai fod ar gost y busnesau ffermio a'r cymunedau gwledig. Wedi’r cyfan rhain yw'r bobl sydd â gwybodaeth a sgiliau cefn gwlad sydd â'r gallu i gynhyrchu bwyd yng Nghymru yn llwyddiannus ac i ofalu am gefn gwlad Cymru yn y dyfodol.”