Bydd Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Sandilands, Tywyn, Gwynedd rhwng 24 a 26 Awst 2021 - ac mae grŵp UAC yn gyffrous i ymuno â’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal ar fferm aelod o’r Undeb, Geraint Owen. Mae Mr Owen yn hen gyfarwydd a chynnal digwyddiadau o'r fath, ar ôl cynnal y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn 2016.
Bydd UAC yn cael ei chynrychioli gan gangen Meirionnydd a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ac mae pawb yn edrych ymlaen at groesawu aelodau a'r rhai sy'n cystadlu yn y Treialon Cŵn Defaid i'r stondin.
Mae gan Geraint Owen o fferm Sandilands, Tywyn gysylltiadau agos â UAC dros nifer o flynyddoedd, ac mae'n gyn-gadeirydd Cangen Tywyn. Mae Sandilands yn fferm bîff a defaid gyda thua 2000 o ddefaid magu a 150 o wartheg magu Limousin a gwartheg sugno croes Limousin.
Mae teulu’r Owen wedi ffermio Sandilands ers 1938 pan gymerodd nain a thaid Geraint y fferm drosodd. Geraint yw'r drydedd genhedlaeth i ffermio yma mewn partneriaeth â'i frawd Hugh. Mae'r brodyr hefyd yn rhedeg busnes parc carafanau mawr gydag aelodau eraill o'r teulu.
Dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd: “Mae'r caeau lle mae'r treialon yn cael eu cynnal mewn lleoliad gwych, gyda golygfeydd godidog dros ddyffryn Dysynni, ac yn berffaith ar gyfer digwyddiad fel hwn. Rydym yn falch o allu cefnogi’r digwyddiad hwn, cwrdd â phobl yn bersonol ac rydym yn obeithiol y bydd digwyddiadau fel hyn yn arwydd o ddychwelyd i normal. Rydym yn dymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr yn ystod Treialon Cŵn Defaid Cymru ac yn edrych ymlaen at groesawu pobl i stondin UAC.”