[caption id="attachment_7025" align="alignleft" width="300"] Disgyblion Amaethyddiaeth Blynyddoedd 10 a 11 Ysgol Henry Richard yn ymuno gyda Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones a Swyddog y Wasg UAC Anne Birkett ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd.[/caption]
Bu cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnig diod o laeth am ddim i ddisgyblion Ysgol Henry Richard, Tregaron, Ceredigion yn ddiweddar er mwyn dathlu'r 17eg Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd.
Ymunodd yr Undeb a’r disgyblion gyda gwledydd ar draws y byd er mwyn pwysleisio’r manteision o raglenni llaeth ysgol a bu dros 170 o ddisgyblion yn mwynhau diod o laeth yn ystod amser egwyl.
Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones: “Mae’n hollbwysig ein bod ni fel diwydiant yn mynd i’r ysgolion i hyrwyddo amaethyddiaeth ac i addysgu’r genhedlaeth nesaf am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu.
“Mae llaeth a chynnych llaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein diet bob dydd gan eu bod nhw’n darparu ffynhonnell bwysig o brotein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, ac mae’r cyfan oll yn bwysig i ddiet cytbwys.
Mae eithrio cynnyrch llaeth o’r ‘dreth siwgr’ yn dangos pa mor bwysig ydynt i ddiet iach.”
[caption id="attachment_7026" align="alignright" width="225"] Disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Henry Richard Tirion Lloyd a Bonnie Woodcock yn rhan o Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd[/caption]
Gydag ymchwil cynyddol i laeth yn dangos ei fod yn gymorth ar gyfer ail-hydradu, ac mae tystiolaeth yn dangos hefyd y gall llaeth fod yr un mor effeithiol â diodydd chwaraeon neu ddiodydd egni.
“Yn bendant gall llaeth helpu plant i aros yn hydradol a chynnal ei lefelau egni yn y dosbarth, ac mae’n ddewis iach o gymharu â rhai o’r diodydd siwgraidd sydd ar gael. Rwyf am ddiolch i Brif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh a’r staff am eu cefnogaeth ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r ysgol i addysgu’r plant am faterion amaethyddol ac o le daw eu bwyd,” ychwanegodd Mared Rand Jones.
Dywedodd Prif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh: “Fel ysgol, rydym yn falch iawn o weithio gyda UAC er mwyn hyrwyddo Diwrnod Llaeth Ysgol y Byd. Yn Ysgol Henry Richard rydym yn deall y pwysigrwydd o gael diet iach ac yfed llaeth, ac roedd y disgyblion yn falch iawn o gael cwrdd â Mared ac Anne o UAC a chael gwydraid o laeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda UAC yn y dyfodol.”
[caption id="attachment_7027" align="aligncenter" width="300"] Prif Athro Ysgol Henry Richard Dorian Pugh a Swyddog Gweithredol UAC Ceredigion Mared Rand Jones yn pwysleisio bod #AmaethAmByth ar Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd.[/caption]