Os yw Cwm Penmachno yn mynd i lwyddo fel ardal amaethyddol lewyrchus, ffermwyr ifanc fel Iwan Jones - ffermwr cenhedlaeth gyntaf - fydd yn gyfrifol am hynny. Magwyd Iwan ym Mhenmachno ac ni all gofio amser pan nad oedd naill ai'n chwarae neu’n helpu ar ffermydd yn y cwm.
Dwy flynedd yn ôl cymerodd ef a'i bartner Gwawr denantiaeth o fferm Carrog, tyddyn 80 erw yn rhan uchaf Cwm Penmachno. Mewn ffordd sydd yn dod yn fwy a mwy cyffredin yn y diwydiant, mae Iwan yn cyfuno'r brif fferm â darn arall o dir yn agosach at yr arfordir, a chanddynt hefyd hawl i bori 300 o ddefaid ar dir comin yn y Cwm, ac mae'n gobeithio cadw buches fach o wartheg bîff yn y blynyddoedd i ddod.
Mae hefyd yn gweithio pum niwrnod yr wythnos er mwyn ychwanegu at incwm y fferm. “Nid wyf yn credu y gallwn wneud hyn heb weithio’n llawn amser. Dyna’r brif ffynhonnell incwm, dyna be dwi’n wneud rŵan a dyna be dwi wedi arfer i wneud. Codi yn y bore, mynd i'r gwaith, dod adref ac yna gwneud ychydig o waith gyda'r nos. Rwy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ar ddydd Sul. Edrychaf ymlaen at ddydd Mawrth pan fyddwn yn mynd â'r ŵyn i'r farchnad, dyna fy niwrnod i ffwrdd mewn gwirionedd" meddai.
Er bod y tir bron i 300 metr uwchlaw lefel y môr, nid oes gan Iwan unrhyw broblemau gyda'r ansawdd: “Mae'n dir da. Mae'n dir sych. Dwi ddim yn meddwl bod yna llawer o'i le ar y pridd yma i fod yn onest. Mae yna lawer o raean ac mae'n draenio'n naturiol. Y peth cynta wnaethon ni pan ddaethon ni yma oedd profi'r pridd ym mhob cae. Roedd pob cae yn isel ym mhopeth, diffyg llwyr o bopeth. Roedd yn flaenoriaeth gennym felly i adfer lefelau’r maetholion a chalch ble roedd angen i ni wneud hynny.
“Rwy’n credu bod gofalu am y pridd yn un o’r pethau pwysicaf wrth ffermio. Dyma'r sylfaen. Os nad ydych yn gofalu am y pridd, nid yw'n gofalu am y defaid, ac nid ydynt yn gofalu am yr ŵyn. O ganlyniad dyma'r peth pwysicaf i’w gael yn iawn wrth ffermio. Os nad yw'r sylfaen yn iawn, waeth i chi anghofio popeth.”
Tir yw un o'r prif ffactorau wrth ffermio, un arall yw'r tywydd ac mae Iwan wedi bod yn dyst i’r da a’r drwg ers iddo gychwyn ar ei denantiaeth yng Ngharrog. “Yn ystod ein tymor wyna cyntaf yma roeddwn i’n mynd allan yn y bore yn fy nghrys T ar y beic. Eleni roedd yn hollol wahanol. Fyddech chi byth yn coelio'r gwahaniaeth rhwng y ddau dymor. Roeddwn i'n meddwl bod wyna yn mynd i fod mor hawdd pan oedd popeth yn mynd yn iawn, ond roedd ein hail dymor yn hollol wahanol.
“Cawsom bedwar neu bum bore o eira yn ystod ein hail dymor o wyna, ac roedd pob oen yn cael ei eni y tu allan. Roedd popeth a oedd yn cael ei eni yn marw ar unwaith a doedd dim posib gwneud unrhyw beth amdano mewn gwirionedd. Yn y diwedd fe ddaethon ni â gweddill y Defaid Mynydd Cymreig i mewn ond roedden nhw'n cael problemau calsiwm ac yn marw, felly roedd yn rhaid i ni eu troi nôl allan a'u gadael ar eu pennau eu hunain. Nid oedd yn wanwyn hawdd iawn.”
Nid y gaeaf yn unig yw’r prif fwgan ar y gorwel. Pan ofynnwyd iddo am fygythiadau posib, mae Iwan yn cyfeirio ar unwaith at blannu coed. Nid yw yn erbyn y syniad ond mae'n pledio am weithredu cytbwys.
“Does gen i ddim byd yn erbyn gwaith amgylcheddol. Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith ar wrychoedd yma ond nid ydym yn awyddus i blannu coed ar dir fferm da i fod yn onest. Rwy'n credu bod yna wahanol ffyrdd i storio carbon, nid plannu coed ar ffermydd yn unig yw’r ateb. Mae yna rai lleoliadau ble fyddai coed yn ddatrysiad addas. Mae pobl wedi gwneud ar wlypdiroedd, yn enwedig os yw'n ddrwg iawn o ran llyngyr yr iau a’i bod yn anodd ei ffermio. Does gen i ddim byd yn erbyn hynny, ond rydw i wedi gweld tir da wedi'i blannu â choed ac mae hynny'n ymddangos yn gymaint o wastraff, yn enwedig wrth i ni geisio bwydo poblogaeth sy'n tyfu o hyd” meddai.