Brecwastau Ceredigion yn codi ysbryd yn y gymuned ac arian hanfodol i elusen iechyd meddwl

FUW Caerwedros - Ceredigion county chair Morys Ioan cookingMae cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru, nid yn unig wedi codi ysbryd ffermwyr lleol a’r gymuned wledig, ond hefyd arian hanfodol ar gyfer elusen iechyd meddwl y DPJ Foundation.

Gan gynnal tri digwyddiad brecwast prysur, fel rhan o wythnos brecwast Ffermdy UAC, mwynhaodd ffrindiau, aelodau a ffermwyr Ceredigion ddod at ei gilydd yng Nghanolfan Gymunedol Mynach, Pontarfynach, Neuadd Caerwedros a Neuadd Felinfach.

Wrth siarad ar ôl prysurdeb y brecwastau, dywedodd Cadeirydd Sir UAC Ceredigion, Morys Ioan:

“Mwynhaodd dros 150 o bobl y cymdeithasu a chychwyn y diwrnod gyda brecwast o safon uchel yn defnyddio cynnyrch lleol. Roedd yn wych gweld pawb, rhannu ein barn am y diwydiant a rhoi’r byd yn ei le.

“Ar ran y Sir hoffwn hefyd ddiolch i bawb a helpodd gyda’r coginio, gweini, golchi llestri a sicrhau bod y tri digwyddiad yma’n cael eu cynnal yn ddidrafferth. Rwyf hefyd yn falch o ddweud, diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiadau drwy gael brecwast, eich bod wedi ein helpu i godi dros £1,500 er budd y DPJ Foundation.”