[caption id="attachment_4063" align="aligncenter" width="500"] Mari Eluned's crown on the banks of the River Dyfi[/caption]
Defnyddir gwlân glas Cymreig i gyfleu llif yr afon Ddyfi yn y Goron sydd i’w gwobrwyo yn Eisteddfod Powys a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Tabernacl ym Machynlleth ar Hydref 26 a 27.
Comisiynwyd Mari Eluned, cynllunydd gemwaith Cymreig gan ganghennau sirol Meirionnydd a Threfaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru i wneud y Goron a gafodd ei throsglwyddo’n swyddogol i gadeirydd yr Eisteddfod John Price mewn cyfarfod arbennig o bwyllgor gweithredol yr Eisteddfod.
“Daw’r ysbrydoliaeth am y Goron hon o ardal Bro Ddyfi a’i hanes ac mae’r cynllun yn seiliedig ar Goron Owain Glynd?r gydag addasiadau i gyfleu’r afon Ddyfi,” dywedodd Mari sydd wedi ei magu ar fferm anghysbell yn Eryri ac sydd bellach yn byw ym Mallwyd ger Machynlleth.
Mae’n disgrifio’i chreadigaeth fel un tebyg i’r Goron aur ac arian a grefftwyd ar gyfer coroni Owain Glynd?r fel Tywysog Cymru ar Fehefin 21 1404.
“Defnyddiwyd llechen o chwarel Aberllefenni er mwyn cadw naws leol y Goron a’i chyfuno gydag arian”, dywedodd.
“Mae ymyl y Goron wedi’i morthwylio i gyfleu glan yr afon ac mae’r gwlân Cymreig wedi ei lifo’n las naturiol gan roi awgrym o lif yr afon.
“Yn ogystal â’r gwlân, mae’r ddelwedd o ddefaid ac ?yn sydd wedi cael eu hysgythru i’r arian yn adlewyrchu pwysigrwydd amaethyddiaeth yn Nyffryn Dyfi a’r cyffiniau ac yn ddolen gyswllt addas gyda changhennau UAC sy’n noddi’r Goron.”
Dywedodd Huw Jones, swyddog gweithredol sirol cangen Meirionnydd o UAC bod yr Undeb yn hynod o falch i fod yn gysylltiedig gyda’r eisteddfod a’i bod hi’n fraint cael cyflwyno un o’r prif wobrau.
“Mae Mari wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn creu gemwaith Cymreig unigryw sy’n defnyddio deunydd naturiol.
“Mae ei dawn greadigol yn boblogaidd iawn ac mae’n gwerthu ei chreadigaethau ar hyd a lled Prydain yn ogystal ag i bellafion byd.
“Mae’n defnyddio deunyddiau naturiol wedi eu cyfuno gyda mhetalau ac yn eu trawsnewid i ddarnau o emwaith cywrain a thlws sy’n cael eu hysbrydoli gan natur, amaethyddiaeth a’i Chymreictod.
“Mae’n ymfalchïo yn ansawdd y grefft a’i chynlluniau unigryw ac yn creu pob darn a llaw.
“Roedd ganddi ddawn greadigol naturiol o oedran cynnar sydd wedi datblygu yn ystod ei hamser yn yr ysgol a’r coleg ac sydd bellach wedi dod yn yrfa iddi.”
Ar ôl graddio o Brifysgol Loughborough yn 2006, gydag anrhydedd dosbarth cyntaf fel Gemweithydd a Gof Arian, sefydlodd Mari weithdy ei hun yn ei chartref ym Mallwyd ac yn 2009 enillodd wobr Blas a Dawn Gwynedd 2009 “Crefftwr /Arlunydd Ifanc y Flwyddyn”.