Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Cynllun cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol BPS 2020 |
Bydd y cynllun yn talu benthyciad o hyd at 90% o’r hyn a ragwelir yw gwerth hawliad BPS busnes unigol o 7 Rhagfyr i hawlwyr llwyddiannus nad yw eu hawliad BPS llawn wedi’i brosesu. Bydd RPW yn sicrhau bod hawlwyr sydd wedi’u gwrthod trwy geisiadau’r cynllun cymorth yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer prosesu er mwyn naill ai derbyn taliad llawn neu gefnogaeth cyn gynted â phosib. Mae FUW yn annog Aelodau i wneud cais i’r cynllun cymorth ac i gysylltu â’u Staff yn y Siroedd os oes angen cymorth. |
27 Tachwedd 2020 Optio i mewn trwy RPW Ar-lein |
Grantiau Bach Glastir: Tirwedd a Pheillwyr |
Yn sgil pandemig Covid, mae RPW wedi cadarnhau bod y dyddiad cau ar gyfer gwaith cyfalaf Grantiau Bach Glastir: Tirwedd a Pheillwyr wedi’i ymestyn i 30 Medi 2020, er mwyn gallu cwblhau gwaith ym Medi ar ôl y cyfnod cau ar gyfer torri gwrychoedd/perthi. |
30 Medi 2020 |
Ffenestr ymgeisio am gyllid Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr ymgeisio am gyllid nesaf ar gyfer hyfforddiant yn agor ar 7 Medi. Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr hon, i wneud cais am hyfforddiant wedi’i ariannu, neu i ddiweddaru eu cyfrif, gysylltu â Chyswllt Ffermio cyn 5pm ar 26 Hydref. Er gwaetha’r cyfyngiadau a’r ansicrwydd ynghylch pryd y bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ail-ddechrau, mae Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio wedi parhau i weithio, gan gynorthwyo’r rhai sydd am wneud cais. |
7 Medi – 30 Hydref 2020 |
Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddion |
Mae cynllun Grant Busnes i Ffermydd Gorchuddion Clos yn chwilio i gefnogi ffermwyr i wella eu seilwaith cyfredol ar gyfer gorchuddion clos – gorchuddio ardaloedd porthi, storfeydd slyri ac ati - i gadw dŵr glaw allan o’r slyri/tail. Bydd y cynllun yn cynnig dau gyfnod posib i ymgeisio a chefnogaeth o rhwng £3,000 a £12,000. Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Hydref. |
9 Tachwedd - 18 Rhagfyr 2020 (£1.5 miliwn) |