Mae'r Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn galw ar bobl ifanc rhwng 16-30 oed, o gefn gwlad Cymru, i rannu eu barn ar eu dyfodol, fel rhan o’n gwaith i ddatblygu Weledigaeth i Gymru Wledig.
Mae Fforwm Wledig y Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn gweithio ar y cyd gyda Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu Bargen Wledig, drwy ddatblygu Weledigaeth a sicrhau’r adnoddau i’w wireddu. Mae'r Gymdeithas Lywodraeth Lleol yn awyddus i glywed eich barn chi er mwyn llunio’n gwaith.
Bydd yr hyn sy’n cael ei drafod yn y digwyddiad yn cael ei adrodd yn ôl i Arweinwyr Llywodraeth Leol yn ardaloedd Wledig Cymru, y bobl sy’n gyfrifol dros benderfyniadau i ymwneud â chaniatad cynllunio, addysg, a gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi.
Wrth ymuno yn y sgwrs, byddwch hefyd yn rhan o waith ymchwil dros Ewrop sy’n asesu’r cysylltiadau rhwng ardaloedd gwledig a threfol, sef prosiect ROBUST.
Cofrestrwch i leisio’ch barn ar y 14ed Hydref rhwng 18:30-20:30 ar Zoom, fan hyn- https://bit.ly/2G5MiuC.