Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi manylion am flaenoriaethau cyllid y CDG buddsoddiad o £106 miliwn am y tair blynedd nesaf.
Caiff y cynlluniau eu hariannu drwy gyfuniad o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) yr UE cyllideb 2014-20 – yn cynnwys y 15% a drosglwyddwyd o’r Taliadau Sylfaenol i ffermwyr – ac o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cynlluniau allweddol sy’n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, yn ogystal â chynlluniau newydd a gynlluniwyd mewn ymateb i heriau cyfredol a rhai sydd ar ddod. Bydd cyfran o’r gyllideb hefyd yn mynd tuag at reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru.
Bydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru’n cynnwys:
- Creu ac adfer coetiroedd
- Adeiladu gwydnwch ymysg adnoddau naturiol Cymru a gwella bioamrywiaeth
- Helpu busnesau bwyd i wella eu cadwyni cyflenwi, cadernid busnesau
- Cefnogi busnesau fferm i helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd
- Darparu Strategaeth Adfer Covid-19 ar gyfer y sector bwyd a diod
Er y croesawir y cadarnhad y defnyddir 17% o’r gyllideb ar gyfer cyfnodau newydd Creu ac Adfer Coetiroedd Glastir (9%) a chynlluniau Grantiau Bach (8%), mae’r ffaith bod yr ail ddyraniad uchaf yn y cyhoeddiad (£16.5 miliwn – 15%) yn ymwneud â “Galluogi Adnoddau Naturiol a phrosiectau Cefnogi Lles sy’n gwneud gwelliannau i adnoddau naturiol mewn ardaloedd preswyl” yn codi pryderon mawr ynglŷn â’r cyfeiriad ar hyn o bryd.
Mae esboniad Llywodraeth Cymru mewn ateb ysgrifenedig i lefarydd amaeth yr wrthblaid Llyr Huws Gruffydd bod cyfanswm y cyllid a glustnodwyd ar gyfer prosiectau Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn £2,836,260 (18%) yn gyfalaf a £13,092,091 (82%) yn refeniw (h.y. cyflogau ac ati) gan godi pryderon ynglŷn â sut fydd cyllid yn cael ei wario yn y dyfodol.
Ceir manylion y dyraniadau cyllid a gyhoeddwyd yn y tabl isod:
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd |
Ffocws ar wella cynhyrchiant busnesau a chynhyrchiant yn y gadwyn gyflenwi, cadernid busnesau a rheoli risg drwy fuddsoddiadau wedi’u targedu budsoddiad mewn pobl a thechnoleg. |
£23,000,000 |
22% |
Y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles |
Cefnogi prosiectau sy’n gwneud gwelliannau i adnoddau naturiol mewn ardaloedd preswyl, gan ddarparu manteision ar gyfer pobl, busnesau a’u cymunedau |
£16,500,000 |
15% |
Creu ac Adfer Coetiroedd Glastir |
Cymorth grant i gynyddu arwynebedd y coetir sy’n cael ei blannu yng Nghymru / gwaith cyfalaf i ailstocio, ffensio a chynnal y gweithrediadau cysylltiedig ar safleoedd |
£10,000,000 |
9% |
Y Grant Busnes i Ffermydd |
Grant i helpu busnesau ffermio i fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella eu perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol |
£8,500,000 |
8% |
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy |
Buddsoddiadau mewn seilwaith ar ffermydd â’r nod o wella’r ffordd mae maethynnau’n cael eu defnyddio ar ffermydd. |
£8,000,000 |
7% |
Cyflawni Llywodraeth Cymru |
Cynnal, cefnogi a pharhau â’r gyfres o geisiadau’r RPWT (CAPIT / GIS /RPW Ar-lein) sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni a gweinyddu cynlluniau’r RDP 2014–2020. |
£6,000,000 |
6% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSDS) – (Ymwrthedd Gwrthficrobaidd) |
Bydd y rhaglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn gweithio gyda cheidwaid anifeiliaid a milfeddygon i sicrhau bod gwrthfiotigau’n parhau i fod yn effeithiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd. |
£4,000,000 |
4% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (Bwyd – y Cynllun Adfer o Covid-19) |
Cynllun sydd â’r nod o ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio cynhyrchion cynradd, yn benodol bwyd a gwlân, ond yn cynnwys cynhyrchion eraill. |
£3,500,000 |
3% |
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy |
Cynllun sy’n cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd, sy’n gweithredu i wella ein hadnoddau naturiol mewn modd sy’n sicrhau manteision i fusnesau ffermio a busnesau a chymunedau gwledig. |
£3,000,000 |
3% |
Grantiau Bach Glastir – Dŵr |
Grantiau i gefnogi buddsoddiadau mewn gweithgareddau sy’n arwain at welliannau i ansawdd dŵr, aer a phridd, wrth hefyd wella bioamrywiaeth ar ffermydd. |
£3,000,000 |
3% |
Grantiau bach Glastir – Carbon / Tirwedd a Pheillwyr |
Grantiau i wella bioamrywiaeth ar ffermydd, gan wella ansawdd aer, dŵr a phridd a rhoi manteision amgylcheddol, a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr. |
£3,000,000 |
3% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio – (Twristiaeth Bwyd) |
Cynllun sydd â’r nod o roi hwb i economi bwyd ac ymwelwyr Cymru drwy gydweithredu rhwng gweithredwyr yn y sectorau ffermio, bwyd a thwristiaeth a sectorau ategol fel y sector gwasanaethau bwyd a lletygarwch. |
£3,000,000 |
3% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (Rownd 6) |
Cynllun i gefnogi busnesau, mudiadau a chymunedau i fod yn fwy cadarn drwy fynd i’r afael â materion megis tlodi gwledig, cynaliadwyedd ariannol, newid hinsawdd a’r amgylchedd, tlodi mewn gwaith ac allgáu cymdeithasol |
£2,970,000 |
3% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio - (Trafnidiaeth Gymunedol) |
Cynllun i gefnogi cynlluniau trafnidiaeth gymunedol lleol |
£2,400,000 |
2% |
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren |
Buddsoddiadau a fydd yn gwella potensial coedwigaeth neu sy’n ymwneud â symud (cynaeafu), prosesu ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion coedwigaeth |
£2,000,000 |
2% |
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig |
Cynllun i greu a datblygu microfusnesau a busnesau bach nad ydynt yn fusnesau amaethyddol. |
£2,000,000 |
2% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio - (Dulliau Arloesol a Thyfiant Cydweithredol) |
Cynllun i annog a symbylu dulliau arloesol a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu yn y sector garddwriaeth. |
£2,000,000 |
2% |
Cyswllt Ffermio – y Gwasanaeth Cynghori |
Cynllun i ddarparu cyngor annibynnol, i bwrpas a pharhaus, un i un neu ar gyfer grwpiau, i wella rheoli cynaliadwy a pherfformiad economaidd ac amgylcheddol busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yn y sectorau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru. |
£1,875,000 |
2% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio – (Peilot ar gyfer Cydlyniant Cymunedol a Chymorth i Adferiad Gwyrdd) |
Cynllun i barhau i gefnogi’r gwaith o ailbwrpasu gweithgareddau cydlyniant cymunedol drwy feithrin arloesi, cynnal gweithgareddau peilota a manteisio i’r eithaf ar ddigideiddio. |
£1,000,000 |
1% |
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio– (Camau gweithredu Peilot ar gyfer Twf Gwyrdd a’r Economi Gylchol) |
Cynllun i gefnogi gweithgareddau peilot i alluogi dull sy’n cynnwys yr holl gadwyn gyflenwi; gan ychwanegu gwerth a chreu ymdeimlad o le a threftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru drwy brosesu a marchnata cynhyrchion nad ydynt yn Atodiad I |
£1,000,000 |
1% |
Monitro a Gwerthuso |
Buddsoddiad i lywio’r gwaith o gyflawni prosiectau presennol yr CDG a datblygu Rhaglen/prosiectau ar gyfer y dyfodol |
£150,000 |
0% |