Mae ffermwyr tenant yng Nghymru’n cael eu rhybuddio i weithredu’n gyflym os byddan nhw’n cael Rhybudd i Adael gan eu landlordiaid.
Daw’r rhybudd gan Eifion Bibby o Ymgynghorwyr Eiddo Davis Meade, a fu’n cynghori aelodau FUW sydd wedi derbyn gohebiaeth o’r fath.
Mae’n hanfodol bod tenantaid yn gofyn cyngor ar unwaith os byddant yn derbyn rhybudd i adael, am mai dim ond hyn a hyn o amser sydd ar gael – dim ond mis weithiau, er enghraifft – i weithredu, megis drwy gyflwyno gwrth-rybudd, lle bo’n briodol.
Mae amgylchiadau wedi codi lle mae tenantiaid wedi colli eu hawliau tenantiaeth yn ddiangen drwy beidio â gweithredu’n ddigon cyflym.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eifion Bibby yn swyddfa Bae Colwyn yr Ymgynghorwyr Eiddo Davis Meade ar 01492 510360, ebost