Mae Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Môr Llywodraeth Iwerddon (DAFM) wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno profion TB gorfodol ar gyfer gwartheg, 30 diwrnod cyn eu symud allan o fuchesi sydd â risg uchel o TB, yn ei dogfen ddrafft‚‘Ten Year Roadmap to Reduce bTB and Drive Towards Eradication 2020-2030’.
Mae’r cynllun yn awgrymu bod buchesi sydd wedi cael nifer o achosion yn y gorffennol yn wynebu risg uwch o gael y clefyd yn dychwelyd ar ôl cael prawf clir, a bydd DAFM yn darparu gwell cymorth i’r buchesi hyn, gan gynnwys cynllun rheoli TB sydd wedi’i deilwra ar gyfer pob buches unigol.
Bydd gwartheg sy’n cael canlyniad prawf croen amhendant yn cael prawf gwaed yn fuan wedyn, ac os ydy hwnnw’n glir cynhelir profion gwaed rheolaidd wedi hynny tra bod yr anifail yn rhan o’r fuches.
Mae ICSA (Sefydliad Ffermwyr Gwartheg a Defaid Iwerddon) yn cytuno bod angen gwell cymorth ar gyfer buchesi sydd â risg uwch o TB, ond mae wedi dweud, fodd bynnag, na fydd yn cytuno i unrhyw un o’r cynigion hyn nes bod yr holl faterion sy’n gysylltiedig â digolledu am TB, a mesurau bywyd gwyllt wedi cael sylw.
Bydd DAFM yn cynnal cyfarfodydd â Rhanddeiliaid ar y Fforwm TB i drafod y strategaeth ddrafft.