Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi anfon llythyr o gŵyn at y Daily Post yn dilyn ymateb o du ei haelodau nas gwelwyd ei debyg o’r blaen i’r hysbyseb PETA diweddar a ymddangosodd yn rhifyn Dydd Mercher 24ain Mawrth o’r papur.
Mae aelodau FUW wedi mynegi dicter, rhwystredigaeth a siom bod papur sydd â chynulleidfa wledig ac amaethyddol gref wedi cyhoeddi hysbyseb sy’n annog ymddygiad anghyfrifol a pheryglus, fel y gwna’r hysbyseb PETA, sy’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod os welant achosion o fuchod sâl ar ffermydd y DU.
Mae’r llythyr yn datgan bod annog y cyhoedd i dresmasu ar dir ffermio nid yn unig yn aflonyddu ar yr anifeiliaid, ond mae hefyd yn beryglus i’r sawl sy’n mynd yn agos at y da byw - yn enwedig am y bydd llawer o’r buchod â lloi yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae'n bosib iawn y bydd unigolion sy’n gweithredu o ganlyniad i’r hysbyseb hwn yn camddeall y sefyllfa, a gall camddealltwriaeth o’r fath wneud niwed i enw da’r diwydiant, os bydd y cyhoedd yn penderfynu rhannu fideos a lluniau allan o’u cyd-destun, yn seiliedig ar eu dealltwriaeth rannol o beth yw gofal cywir o anifeiliaid fferm.
I wneud iawn am hysbyseb mor amhriodol, mae FUW wedi gofyn am dudalen lawn i’r diwydiant ffermio, er mwyn rhoi sylw i’r broblem o dresmasu ar dir ffermio, a rhoi cyfle i’r diwydiant roi esboniadau cywir o faterion lles anifeiliaid, y tu hwnt i’r adran ffermio arferol.
Gwnaed y penderfyniad i beidio â rhoi cyhoeddusrwydd pellach i’r hysbyseb drwy ddatganiadau i’r wasg neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.