Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
Trosglwyddo Hawliau PBS 2021 |
Gall ffermwyr erbyn hyn drosglwyddo eu Hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) drwy eu gwerthu, eu prydlesu, neu’u hetifeddu. |
15 Mai 2021 |
Cynllun Gwaredu Plaladdwyr Cyfrinachol a Rhad ac Am Ddim 2021 |
Mae Dŵr Cymru unwaith eto’n rhedeg ei gynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol a rhad ac am ddim yn 2021. Mae’r cynllun yn rhan o’r prosiect PestSmart ac mae’n cynnig cyfle i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill i gael gwared ag unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr diangen sydd heb drwydded neu wedi darfod, yn ddiogel ac am ddim. Cliciwch yma i gofrestru. |
31 Mai 2021 |
Ffenestr Hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 3 Mai hyd at Ddydd Gwener 25 Mehefin 2021. Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru manylion eu cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar Ddydd Llun 21 Mehefin 2021. Ceir mwy o wybodaeth yma. |
|
Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield |
Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn. |
31 Gorff 2021 |