Cyn etholiadau Senedd Cymru 2016, rhybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am yr heriau digynsail oedd yn wynebu Aelodau’r Senedd a’r Llywodraeth newydd. Ers hynny, mae’r heriau hynny nid yn unig wedi dod yn realiti ond wedi cynyddu a gwaethygu.
Ym Maniffesto Etholiadau Senedd Cymru FUW 2021, mae’r Undeb yn parhau i ddatgan yn glir bod ffermydd teuluol Cymru'n rhan ganolog o'n heconomi wledig, ein diwylliant a'n tirwedd. Maent yn cynnal cannoedd o filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy'n rhan o'r diwydiant cyflenwi bwyd, tra'n gwneud cyfraniadau dirifedi eraill i les trigolion Cymru a'r DU. Yn ganolog i hyn oll mae cynhyrchu bwyd, sef ein cyfleustod mwyaf gwerthfawr, ochr yn ochr â dŵr.
Rhaid i bolisïau’r dyfodol adlewyrchu’r angen i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn ein hamgylchedd, ond rhaid bod dyheadau o’r fath wedi’u lliwio gan yr wybodaeth na fydd newidiadau ysgubol sy’n tanseilio’n ffermydd teuluol, a chynhyrchu bwyd, yn gwneud dim mwy na symud y cynhyrchu i wledydd sydd â safonau lles anifeiliaid is, ac ôl troed amgylcheddol uwch yn fyd-eang.
Mae FUW hefyd yn dal i fod yn rhwystredig am y diffyg polisïau penodol i Gymru yn y cynigion ar gyfer cynllun ffermio a thaclo ansawdd dŵr yn y dyfodol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Cymru bresennol, a’r teimlad pendant bod y rhai sy’n ein llywodraethu o Fae Caerdydd erbyn hyn yn bellach i ffwrdd ac yn fwy di-hid o’n cymunedau gwledig nag erioed.
Ochr yn ochr â materion a blaenoriaethau eraill hanfodol a amlinellir yn y maniffesto hwn, mae FUW yn annog y Llywodraeth a’r Senedd nesaf yng Nghymru i ddatblygu a theilwra polisïau penodol, sy’n adlewyrchu gwirioneddau byd-eang yn ogystal ag anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, a Saith Nod Llesiant Cymru; polisïau sy’n cynnal ein safonau uchel presennol, gan sicrhau ar yr un pryd nad yw cynhyrchwyr Cymru’n cael eu tanseilio.
Dros gyfnod y Senedd nesaf yng Nghymru a thu hwnt, mae FUW wedi ymrwymo i lobïo pawb yng Nghaerdydd i sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn cael y sylw a’r parch maen nhw’n eu haeddu – er mwyn ein dyfodol ni oll.
Darllenwch y fersiwn lawn o Faniffesto Etholiadau Senedd Cymru FUW 2021 a’r prif ofynion allweddol ar gyfer y Llywodraeth nesaf yma: https://www.fuw.org.uk/cy/polisi/adroddiadau