Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio |
O ganlyniad i’r pandemig, mae Cyswllt Ffermio wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau un i lawer am y tro. Mae wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau’n ddigidol neu dros y ffôn lle bo modd. Ceir mwy o wybodaeth yma: |
|
Ffenestr Hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr nesaf ar gyfer gwneud cais am gyllid hyfforddiant yn agor ar Ddydd Llun 3 Mai hyd at Ddydd Gwener 25 Mehefin 2021. Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr sgiliau uchod er mwyn gwneud cais am gwrs hyfforddiant wedi’i ariannu, neu rai sydd angen diweddaru manylion eu cyfrif, gysylltu â Cyswllt Ffermio cyn 17:00 ar Ddydd Llun 21 Mehefin 2021. Ceir mwy o wybodaeth yma. |
|
Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau |
Agorodd ail rownd y Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau a 18fed Mai a bydd yn cau ar 25ain Mehefin 2021. Nod y cynllun Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau yw cynorthwyo ffermwyr i wella’u seilwaith presennol ar gyfer gorchuddio iardiau – gorchuddio ardaloedd bwydo, storfeydd slyri, storfeydd silwair ac ati – lle gellir gwahanu dŵr glaw. Gall Swyddogion Gweithredol Sirol FUW esbonio gofynion y cynllun i’r aelodau. Ni fydd staff FUW yn cael llenwi’r Datganiad o Ddiddordeb ar ran aelodau oherwydd y gofynion technegol. Mae gwybodaeh a chanllawiau pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. |
25 Meh 2021 |
Adfer Coetir Glastir |
Mae’r 9fed ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor nawr ar gyfer y cynllun Adfer Coetir Glastir. Mae’r cynllun Adfer Coetir Glastir yn darparu gwaith cyfalaf ar gyfer ailstocio, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd sy’n cynnwys llarwydd a hyd at 50% o rywogaethau eraill. Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno’u trwydded cwympo coed gysylltiedig neu gais am drwydded cwympo coed wrth fynegi diddordeb. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd yn ystod ffenestr Adfer Coetir Glastir flaenorol. Gweler yma am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb. |
25 Meh 2021 |
Cynllun Grantiau Bach – Tirwedd a Pheillwyr |
Agorodd y ffenestr bresennol ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Tirwedd a Pheillwyr ar 18fed Mai a bydd yn cau ar 25ain Mehefin. Mae hon yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru, i gynnal prosiectau a fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion tirwedd traddodiadol, a darparu cysylltiadau rhwng cynefinoedd pryfed peillio. Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth Cymru. |
25 Meh 2021 |
Rhaglen TGCh Cyswllt Ffermio | Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyrsiau hyfforddiant TGCh i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd. Mae sesiynau un i un a gweithdai ar-lein ar gael hefyd ar integreiddio technoleg TGCh i’ch busnes fferm. I archebu, cysylltwch â Lantra ar 01982 552646 neu Mae gwybodaeth bellach ar gael yma. |
|
Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield |
Mae ceisiadau Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2021 ar agor erbyn hyn. |
31 Gorff 2021 |