Yn ddiweddar, lansiodd Cyswllt Ffermio ei offeryn ansawdd gwella aer rhyngweithiol ar-lein yma: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/improving-air-quality. Mae’r offeryn yn rhoi cyngor ar y camau y gall fferm nodweddiadol yng Nghymru eu cymryd i wella ansawdd aer a sicrhau’r buddiannau dilynol i’r busnes:
Mae’r offeryn yn ymdrin â’r is-bynciau canlynol:
- Trin aer a sychu tail
- Gwaith crafu rheolaidd
- Newid o wrtaith wrea plaen
- Ymestyn y tymor pori
- Dull gwasgaru manwl ar gyfer slyri
- Golchi’r iard casglu
- Defnydd effeithlon o brotein yn y deiet
- Gorchuddio’r storfa slyri
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio mewn perthynas â’r pwnc, a grantiau perthnasol y Rhaglen Datblygu Gwledig.