Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i gadw’r un gyllideb ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn 2022.
Cadarnhawyd hyn gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, mewn ymateb i gwestiwn gan Cefin Campbell AS, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru.
Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad o ran ffermwyr yn cael eu talu ar yr un gyfradd â 2019 yn parhau i fod yn amodol ar y cyllid mae Llywodraeth Cymru’n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn yr hydref.
Hefyd, pwysleisiodd Mr Campbell fod tua 40% o’r gyllideb o £838 miliwn ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2022 heb ei wario o hyd, ond ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud ei bod hi’n hyderus o hyd y byddai’r £362 miliwn sydd ar ôl yn cael ei wario cyn y dyddiad cau yn Rhagfyr 2023.
Mae FUW yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei phenderfyniad ar yr estyniad i gytundebau Glastir cyn gynted â phosib, o ystyried bod tua chwarter ffermwyr Cymru’n dibynnu ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol o’r fath am gymorth i warchod a gwella’r amgylchedd.