Mae’r Cynllun Grant Buddsoddi Mewn Coetir ar agor erbyn hyn ar gyfer ceisiadau gan berchnogion tir a’r rhai sydd â rheolaeth lawn o dir.
Mae’r cynllun yn darparu grantiau llawn ar gyfer gwella ac ehangu coetiroedd presennol a chreu coetiroedd newydd, fel rhan o ‘Goedwig Genedlaethol’ y dyfodol.
Rhaid bod gan y coetir elfen o fynediad i’r cyhoedd neu ymgysylltu cymunedol er mwyn bod yn gymwys, a gellir cyfuno cyllid y grant hwn gyda grant Creu Coetir Glastir neu fuddsoddiad preifat.
Mae eitemau cyfalaf cymwys yn amrywio o brynu coed, paratoi’r safle e.e.ffensio, offer a chyfarpar graddfa fach ar gyfer cyflenwi’r prosiect h.y. ffioedd ymgynghori.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 27ain Awst 2021 drwy RPW Ar-lein, ac mae angen i unrhyw gydsyniad neu ganiatâd angenrheidiol, megis asesiadau o’r effaith amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio, fod yn eu lle cyn gwneud cais.
Uchafswm y grant a ddyfernir fesul cais yw £250,000 a’r lleiafswm yw £10,000.
Mae’r gyllideb gyfalaf ar gyfer y ffenestr grant hon yn £2.5 miliwn, yn ogystal â chyllideb refeniw o £250,000.
Rhaid bod yr holl waith prosiect ac unrhyw gostau cysylltiedig wedi’u cwblhau erbyn 31ain Mawrth 2022.
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth Cymru dan Grantiau a Thaliadau Gwledig yma: https://llyw.cymru/coedwig-genedlaethol-i-gymru-y-grant-buddsoddi-mewn-coetir?_ga=2.252142537.1780790663.1629283087-1359518786.1609845826