Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi trefnu i drafod manteision ac anfanteision cyfyngu ar nifer y credydau carbon y gellir eu gwerthu o dir Cymru, cwotâu masnachu carbon, a dulliau eraill y gellid eu defnyddio yng Nghymru.
Yn ystod cyfarfod diweddar o Bwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol UAC, mynegodd yr aelodau bryder difrifol y gallai cyfran fawr o’r carbon sydd wedi’i ddal a’i storio yn nhir Cymru gael ei werthu i wledydd eraill a chwmnïau tu allan i Gymru, gan danseilio gallu amaethyddiaeth yng Nghymru, a hyd yn oed Cymru gyfan,i fod yn garbon niwtral.
Hefyd, cyfeiriodd yr aelodau at y pryderon presennol bod ffermydd yng Nghymru’n cael eu prynu gan gwmniau o’r tu allan i Gymru, er mwyn elwa ar garbon Cymru. Cafodd pryderon o’r fath sylw’n ddiweddar mewn adroddiad gan y BBC, a ddatgelodd fod dwsin o ffermydd wedi’u prynu yng Nghanolbarth Cymru gan gwmnïau o’r tu allan i’r wlad, a oedd yn bwriadu plannu coed ar y tir yn bennaf.
Cytunodd y pwyllgor y dylid cyflwyno system gwota i leihau’r perygl hwn, a chytunwyd y dylai Cadeiryddion holl Bwyllgorau UAC a’r Tîm Llywyddol gynnal trafodaeth fanwl ar fanteision ac anfanteision cyfyngiadau o’r fath, mewn cyfarfod dilynol o Dîm Polisi Llywyddol UAC.
Er bod gwerthu credydau carbon i fusnesau sydd am eu gosod yn erbyn eu hallyriadau carbon yn ymddangos yn opsiwn proffidiol i rai ffermwyr, ni ellir defnyddio’r un carbon wedi hynny i’w osod yn erbyn allyriadau carbon y fferm ei hun a chwrdd â thargedau sero net.
Fodd bynnag, cyfeiriodd Tîm Polisi Llywyddol yr Undeb at gymhlethdod a chanlyniadau annisgwyl posib cyflwyno cyfyngiadau a chwotâu, fel y gwelwyd pan gyflwynwyd cwotâu llaeth yn yr 1980au.
Cwestiwn allweddol yw p’un ai y dylid clustnodi cyfran o’r carbon sydd wedi’i ddal a’i storio ar dir Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yn gyntaf oll, gyda chyfran bellach yn cael ei chlustnodi ar gyfer cwmnïau neu gyrff yng Nghymru - neu a ddylai fod yn farchnad rydd heb unrhyw gyfyngiadau neu gwotâu o’r fath?
Mae’n amlwg ei fod yn faes hynod o gymhleth gyda nifer o ffactorau i’w hystyried, felly mi fydd yn cael ei drafod gan ddeuddeg Pwyllgor Gweithredol Sirol UAC ac yn ystod cyfarfod arbennig o Gadeiryddion y Pwyllgorau a’r Tîm Polisi Llywyddol, i archwilio pa opsiynau polisi y dylai’r Undeb eu cefnogi er mwyn diogelu buddiannau tymor byr a hirdymor y diwydiant ffermio a Chymru gyfan.