Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wedi ymuno â Lantra i ddod â chwrs e-ddysgu diogelwch fferm arbennig i gymunedau gwledig.
Yn 2020-21, lladdwyd 41 o bobl mewn amaethyddiaeth a chofnodwyd oddeutu 12,000 o anafiadau difrifol. Mae gan bob marwolaeth ac anaf ganlyniadau difrifol sy'n newid bywyd unigolion, teuluoedd, busnesau a chymunedau, ac mae modd osgoi bron pob un ohonynt.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â chyfraddau uchel o farwolaeth ac anafiadau difrifol, mae Lantra wedi gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) i ddatblygu hyfforddiant sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bob ffermwr. Mae'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Fferm newydd yn canolbwyntio ar achosion mwyaf cyffredin damweiniau fferm, megis:
- Cwympo o uchder
- Damweiniau a achosir gan gerbydau sy’n symud
- Sathru gan wartheg
- Cysylltiad gyda pheiriannau
- Boddi a mygu
Mae'n rhoi cyngor ymarferol syml ar sut i gadw'ch hun a'ch gweithlu'n ddiogel a sut i gyflawni'ch cyfrifoldebau cyfreithiol.
Hefyd, oherwydd ei fod yn e-ddysgu gallwch chi wneud y cwrs ble bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Mae'r cwrs mewn modiwlau bach, felly does dim rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith a phan fyddwch chi wedi gorffen, fe gewch chi dystysgrif fel prawf bod chi wedi cwblhau’r cwrs.
Mae Lantra a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi rhoi cymhorthdal mawr i ddatblygiad y cwrs hwn, i'w wneud mor fforddiadwy â phosibl.
Mae pawb yn meddwl “ni fydd yn digwydd i mi”, ond os ydych chi'n gyrru tractor, yn reidio beic cwad, yn trin da byw, neu'n defnyddio peiriannau fferm, cafodd 12,000 o bobl fel chi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Doedden nhw ddim yn meddwl y byddai'n digwydd iddyn nhw.
Gallai'r hyfforddiant hwn fod yn ddigon i'ch atal chi neu gydweithiwr rhag colli braich, coes, golwg neu hyd yn oed bywyd.
I gofrestru ar fersiwn ostyngedig o'r cwrs e-ddysgu Iechyd a Diogelwch Amaethyddiaeth: Sut i Gyflawni'ch Cyfrifoldebau Cyfreithiol, sy'n costio £18.00 + TAW, yn lle £20.00 + TAW ar gyfer y fersiwn fasnachol safonol, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw dilyn y linc hon: http://elearning.lantra.co.uk/register/94/55
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cwrs ac wedi talu, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau manylion ar sut i ymuno a’r cwrs hwn. Weithiau fodd bynnag, mae’n bosib bod yr e-byst yma yn mynd mewn i’r ffolder sothach. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag
Mae'r cwrs yn cynnwys fersiwn Gymraeg o'r modiwlau.