Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd yna estyniad o ddwy flynedd i gontractau’r cynllun Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig, ac yn amodol ar dderbyn cyllid digonol gan Lywodraeth y DU, y bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn taliadau uniongyrchol drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) hyd 2023.
Mae’r estyniad i’r contract Glastir yn cynrychioli ymrwymiad cyllidebol o £66.79 miliwn dros ddwy flynedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Bydd yr holl ddeiliaid contract cymwys presennol yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrif RPW ar-lein.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i’r diwydiant ffermio. Gyda’r ansicrwydd enbyd ynghylch taliadau fferm yn y dyfodol, a chytundebau masnach rydd ryngwladol, bydd y sicrwydd hwn yn darparu rhywfaint o sefydlogrwydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Ychydig ddyddiau’n unig cyn y cyhoeddiad, cwrddodd UAC â’r Aelod Senedd Cefin Campbell, gan bwysleisio pwysigrwydd cymorth drwy gynlluniau Glastir i’r oddeutu 3,000 o ddeiliaid contract yng Nghymru oedd angen eglurder ynghylch p’un ai fyddent yn derbyn cyllid o’r fath o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU nawr yw sicrhau bod y swm cywir o gyllid ar gael i Gymru i sicrhau bod modd i’r taliadau BPS barhau yn ôl y bwriad.
Ysgrifennodd UAC at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS yn ddiweddar i ailadrodd bod Trysorlys y DU wedi bod yn annidwyll yn cynnwys cyllid UE nas gwariwyd o gyfnod cyllido 2014-2020 y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y cyfrifiad ar gyfer cyllideb amaethyddol Cymru 2021-2022 – methodoleg a arweiniodd at ddyraniad a oedd £95 miliwn yn llai na’r disgwyl.
Yn y llythyr, pwysodd UAC ar yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud ei orau glas i sicrhau nad yw cyllid nas gwariwyd yn cael ei gynnwys unwaith eto yng nghyfrifiad Trysorlys y DU, oherwydd byddai hynny’n cwtogi ymhellach ar gyllid sydd eisoes oddeutu £137 miliwn islaw’r hyn a ddisgwylid ar sail ymrwymiadau.
Fodd bynnag, yng ngoleuni penderfyniad Trysorlys y DU y llynedd i fabwysiadu dehongliad creadigol o’r ymrwymiad yn y maniffesto “… i warantu’r gyllideb flynyddol bresennol …”, yn naturiol, mae’n bryder y byddant yn mabwysiadu’r un dull yn yr adolygiad presennol.