Mae Sefydliad Ymchwil Moredun, ynghyd â’r prosiect Stoc+ a Chanolfan Milfeddygaeth Cymru wedi datblygu prawf clafr ELISA newydd, sydd ar gael erbyn hyn drwy’r Ganolfan Milfeddygaeth.
Mae Stoc+ yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC) gyda’r nod o weithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hyrwyddo dull rhagweithiol o reoli iechyd preiddiau a buchesi. O blith y ffermydd defaid sy’n cymryd rhan yn y prosiect, mae 24 wedi nodi’r clafr fel un o’u blaenoriaethau o ran iechyd anifeiliaid.
Mae’r clafr yn bresennol yn oddeutu chwarter y preiddiau yng Nghymru ac mae’n costio tua £12 miliwn i’r diwydiant bob blwyddyn.
Gweithiodd UAC gyda Grŵp Dileu’r Clafr y Diwydiant i gyflwyno adroddiad ar y clafr ar ran y diwydiant i Lywodraeth Cymru yn 2018, a oedd yn cydnabod yr angen am driniaeth gydgysylltiedig ar draws ffermydd cyfagos, ac yn amlinellu rhaglen i reoli’r clafr a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd o ffermydd cyfagos yn gweithio gyda’i gilydd i ddileu’r clafr drwy ddull mwy holistig ac ymarferol.
Serch y cynllun peilot am ddim i gynnal profion ar samplau o grafiadau croen, nid yw’r diwydiant hyd yn hyn wedi derbyn y £5.1 miliwn a addawyd dros tair blynedd yn ôl ar gyfer rhaglen ddileu.
Gellir defnyddio’r prawf newydd hwn, sy’n anelu at ddiagnosio a monitro’r risg o ledaenu’r clafr, fel arf arall yn y frwydr i ddileu’r clafr ar lefel genedlaethol.
Gall ffermwyr sy’n poeni am y clafr ddefnyddio’r prawf newydd hwn drwy gysylltu â’u milfeddygon.