Mae rheolau allforio newydd Brexit, ynghyd ag effeithiau’r pandemig, prinder milfeddygon a gweithwyr lladd-dai, colli’r farchnad Tsieiniaidd a phrinder CO2 wedi arwain at ôl-groniad o dros 100,000 o foch ar ffermydd y DU.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 15fed Hydref y bydd mesurau megis cynllun cymorth storio preifat yn caniatáu i broseswyr cig storio moch a laddwyd am dri i chwe mis ac yna’u prosesu’n nes ymlaen.
Maent hefyd yn caniatáu hyd at 800 o fisâu bwtsieriaid porc newydd dros dro am gyfnod o chwe mis, fel rhan o’r Cynllun Peilot Gweithwyr Tymhorol, ac mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn gweithio i ganfod marchnadoedd allforio newydd ar gyfer porc.
Er gwaethaf pecyn cymorth tair wythnos Llywodraeth y DU i ail-agor safle CF Industries, sy’n cwrdd â 60% o ofynion CO2 y DU, mae effaith cau’r safle am dymor byr yn cael ei deimlo eisoes gan ffermwyr, gydag UAC yn derbyn adroddiadau bod prisiau gwrtaith wedi codi i dros £700 y dunnell.
Hefyd, credir bod colli gweithwyr tramor wedi arwain at ostyngiad o rhwng 12 a 25% yn lefelau staffio safleoedd prosesu, gyda nifer y bwtsieriaid i lawr tua 16%.
Mae UAC, gan gynnwys y diwydiant moch a chyrff eraill y diwydiant, wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth y DU am effeithiau o’r fath ers blynyddoedd lawer, gan gynnig atebion sy’n rhan o gyfrifoldebau’r Llywodraeth.
Yn ogystal, mae’r prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV) wedi effeithio ar bron pob un o gadwyni cyflenwi’r DU, ac er bod 5,000 o fisâu gwaith dros dro ar gael i helpu i daclo problemau o’r fath, dim ond 127 o fisâu DU oedd wedi’u dosbarthu hyd at y 5ed Hydref i yrwyr cerbydau HGV o’r cyfandir, oedd yn barod i liniaru’r perygl o silffoedd gwag yn y cyfnod hyd at y Nadolig.
Er bod y problemau a ddisgrifir uchod o fewn y sector moch hefyd yn effeithio ar y gadwyn cyflenwi cig ehangach, mae hynny i raddau llai oherwydd natur amrywiol y diwydiant. Fodd bynnag, mae’n amlwg y gall y sefyllfa newid yn y cyfnod hyd at y Nadolig, o ystyried bod y gyfradd prosesu cig oen a chig eidion eisoes yn disgyn o un flwyddyn i’r llall.
Mae UAC hefyd wedi ysgrifennu ar y Prif Weinidog, Boris Johnson. yn gofyn am bwerau brys a fydd yn rhoi blaenoriaeth i ffermwyr os bydd prinder tanwydd tebyg yn digwydd eto, er mwyn gwarchod y gadwyn cyflenwi bwyd, a lleihau’r effeithiau ariannol, a’r effaith ar les anifeliaid.