Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) a Gwasanaethau AIC, sy’n rheoli Cynllun Sicrwydd y Diwydiant Gwrtaith (FIAS) yn atgoffa ffermwyr o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â storio gwrtaith yn ddiogel, yng ngoleuni cost gynyddol gwrtaith nitrogen a’r posibilrwydd o fod â stoc dros ben ar ffermydd.
Wrth i brisiau nwy uchel byd-eang wthio cost gwrtaith nitrogen i fyny, mae rhai ffermwyr yn wynebu penderfyniadau anodd wrth gynllunio i fwydo cnydau dros y gaeaf hwn a’r gwanwyn nesaf. Mae hyn yn bryder arbennig pan nad oes gan ffermwr stoc digonol neu archebion ar y ffordd i ddiwallu’i anghenion, oherwydd mi allai’r trafferthion gyda’r gadwyn cyflenwi gwrtaith barhau yn ystod gwanwyn 2022.
Mater arall sy’n peri pryder yw gwerth cynyddol stociau presennol o wrtaith nitrogen ar ffermydd, a allai arwain at fwy o ladrata.
Mae yna berygl y gall gwrtaith nitrogen gael ei ddefnyddio at ddibenion anghyfreithlon, ac mae gan unrhyw un sy’n trin a thrafod neu’n storio cynnyrch o’r fath gyfrifoldeb dros sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, a dylent fod yn wyliadwrus am unrhyw ladrata posib.
Gall ffermwyr wneud y defnydd gorau o’u stoc o wrtaith drwy ofyn cyngor un o gynghorwyr cymwysedig y Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau (FACTS).
Pan fydd cynlluniau cnydio’n newid ac nad oes angen y stoc dros ben rhagor, mae ail-werthu’r gwrtaith yn opsiwn, ond rhaid gwneud hynny drwy’r sianeli cywir, drwy ei ddychwelyd i’r cyflenwr gwreiddiol a chael ad-daliad, neu ail-werthu.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu amoniwm nitrad heb y dogfennau cywir, ac ni ddylid hysbysebu gwrteithiau ar safleoedd ocsiwn, mewn cylchgronau masnachu lleol, nac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dylid defnyddio gwerthwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan FIAS, a gellir gwirio hynny ar wefan y Cynllun Sicrwydd.
Dylai pawb yn y diwydiant gadw golwg am gamddefnydd a cham-werthiant posib o wrtaith nitrogen, drwy roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgarwch neu werthiant amheus.
Pan fydd ffermwyr yn meddu ar fwy o stoc yn y gaeaf, dylent atgoffa’u hunain o gynllun pum pwynt y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol ar gyfer storio diogel:
1. Pryd bynnag y bo modd, defnyddiwch gyflenwr sydd wedi’i gymeradwyo gan FIAS
2. Pryd bynnag y bo modd, storiwch mewn ardal ddiogel megis adeilad, neu dan orchudd, o olwg y cyhoedd
3. Gwiriwch y stoc yn rheolaidd gan roi gwybod i’r heddlu am unrhyw golledion ar unwaith (ffoniwch 101)
4. Peidiwch â gadael gwrtaith mewn cae dros nos – peidiwch byth â gadael gwrtaith mewn cae am gyfnod hir
5. Cofiwch ei bod hi’n anghyfreithlon gwerthu amoniwm nitrad heb y dogfennau cywir