i) Llywodraeth y DU yn gwrthod asesiad o effaith cytundeb masnach Awstralia ar Gymru
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar effaith cytundeb masnach DU-Awstralia ar Gymru, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y testun drafft yn cael ei rannu â’r Llywodraethau Datganoledig.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod argymhellion y Pwyllgor bod y Adran Masnachu Rhyngwladol yn cyhoeddi asesiad o’r effaith benodol ar Gymru, ar sail y ffaith ei fod eisoes wedi’i ddarparu fel rhan o asesiad y DU gyfan.
ii) CEBR yn darogan cynnydd ym mhrisiau’r Archfarchnadoedd dros y Nadolig eleni
Mae’r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (CEBR) wedi rhybuddio y bydd siopa Nadolig yn costio mwy eleni yn sgil costau tanwydd ac ynni uwch, problemau cyflenwi, a phrinder staff.
O’i gymharu â Rhagfyr 2020, rhagwelir y bydd teulu arferol yn y DU yn gwario £33.60 yn fwy yr wythnos oherwydd chwyddiant, ond mae nifer o archfarchnadoedd yn ceisio amsugno’r costau cynyddol dros y Nadolig er mwyn cadw cwsmeriaid.
iii) Adroddiad newydd HCC yn dadansoddi’r rhagolygon i sector defaid y DU
Mae adroddiad newydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi datgelu bod nifer yr ŵyn a gafodd eu prosesu o gnwd 2021 12.7 y cant yn is na lefelau 2020, a 10.9 y cant yn is na 2019.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn darogan y gall y prisiau presennol – sydd tua 20 y cant yn uwch na lefelau’r llynedd ar gyfartaledd – barhau yn sgil y galw uchel o du manwerthwyr. Hefyd, mae’r ffaith bod lefelau cynhyrchu cig oen Seland Newydd i lawr oddeutu 4 y cant o un flwyddyn i’r llall yn gymorth ychwanegol.