Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi codi pryderon am y newidiadau arfaethedig i gofrestru ac adrodd ar symudiadau da byw.
Yn ei hymateb i ‘Ymgynghoriad ar newidiadau i Drefniadau Adnabod, Cofrestru ac Adrodd ar Symudiadau Da Byw’ Llywodraeth Cymru, tynnodd yr Undeb sylw at nifer o feysydd lle byddai’r cynigion yn arwain at fwy o gostau a biwrocratiaeth i ffermwyr.
Mae’r rhain yn dod ar adeg pan mae’r DU wrthi’n ffurfio cytundebau masnach â gwledydd megis Awstralia a Seland Newydd, lle nad yw beichiau o’r fath yn dod yn agos at yr hyn sydd eisoes yn ofynnol gan ffermwyr yng Nghymru, heb sôn am yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Mae UAC yn cydnabod ac yn cefnogi’n llwyr yr angen i olrhain da byw yn effeithiol, ond mae o’r farn y bydd rhai elfennau o’r cynigion yn creu mwy o fân reolau i ffermwyr, mewn diwydiant sydd eisoes yn gorlifo â biwrocratiaeth.
Roedd yr aelodau’n teimlo’n gryf na fyddai agweddau o’r cynigion yn gwneud fawr ddim i wella olrheiniadwyedd da byw, o’i gymharu â’r system adrodd ar symudiadau da byw eang sy’n bodoli eisoes ar draws pob rhywogaeth, a bod y dystiolaeth a ddarparwyd i gyfiawnhau’r newidiadau yn annigonol neu’n absennol.
Roedd un pryder arbennig a fynegwyd gan yr aelodau yn ymwneud â’r cynnig i gyflwyno gofyniad gorfodol bod Canolfannau Cofnodi Canolog yn adrodd ar symudiadau anifeiliaid yr un diwrnod, gan gynnwys marchnadoedd, lladd-dai a chanolfannau casglu.
Byddai gofynion llym o’r fath yn arwain at bwysau a biwrocratiaeth cynyddol annerbyniol ar y gwasanaeth pwysig a ddarperir gan Ganolfannau Cofnodi Canolog, ac mi allai olygu bod y diwydiant yn colli’r gwasanaeth pwysig hwn os bydd y marchnadoedd yn optio allan.
Byddai hyn yn golygu mwy fyth o gostau ariannol ac amser i ffermwyr, gyda nifer yn eu plith heb fynediad at y dechnoleg a’r cyflenwad rhyngrwyd angenrheidiol i lenwi’r bwlch a fyddai’n codi yn sgil hyn.
Mynegwyd pryderon hefyd am fwriad Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r holl symudiadau, cofrestriadau a hysbysiadau da byw yn system EID Cymru – sy’n cofnodi symudiadau defaid yn unig ar hyn o bryd – yn nhermau gallu’r system i ryngweithio â chronfeydd data rheoli ffermydd presennol a systemau amlrywogaeth sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan weinyddiaethau eraill y DU – sef rhywbeth a ystyrir yn hanfodol.
Mae hyn yn bryder arbennig i ffermwyr sydd â thir y naill ochr a’r llall i ffin Cymru a Lloegr, oherwydd byddai gofyn iddyn nhw gydymffurfio â rheolau’r ddwy wlad, yn ogystal â dwy system gofnodi wahanol.
Fodd bynnag, canmolodd yr aelodau y Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) presennol am ei ryngwyneb cyfeillgar, ei wasanaethau ffôn awtomataidd, a’i linell gymorth ddwyieithog.
Mae UAC yn deall bod Llywodraeth Cymru am symud i system ar-lein, ond mae cefn gwlad Cymru’n enwog am ei gysylltedd rhyngrwyd gwael a bydd hyn yn creu anghyfleustra enfawr, a chosbau annheg o bosib.
Mae nifer o elfennau o’r drefn bresennol eisoes yn fwy llym na’r rheoliadau UE maent wedi’u seilio arnynt.