Mewn ymateb i adroddiadau am dir yn cael ei brynu yng Nghymru at ddibenion plannu coed a dal a storio carbon, cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) weminar lwyddiannus ar 19eg Ionawr yn dwyn y teitl ‘Atal Cipio Tir Carbon Corfforaethol yng Nghymru: Cydbwyso carbon, coed a chymunedau gwledig’.
Dan gadeiryddiaeth Swyddog Polisi UAC, Teleri Fielden, rhoddodd y weminar ddarlun o’r sefyllfa yng Nghymru.
Fel rhan o lwybr Cymru tuag at Sero Net, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o blannu 180,000ha ychwanegol o goed erbyn 2050, a gwella dulliau o reoli coedlannau. Mae hyn yn cyfateb i 10% o dir ffermio Cymru.
Mae gwerth gwrthbwysiadau carbon yn y dyfodol hefyd yn arwain at goedwigo a phrynu tir. Fodd bynnag, mae’r farchnad garbon bresennol yn un wirfoddol, felly gall cwmnïau preifat brynu credydau carbon heb orfod lleihau eu hallyriadau yn y lle cyntaf.
Mae rhai yn gweld hyn fel marchnad broffidiol i dirfeddianwyr yn y dyfodol. Yn wir, os bydd pris carbon yn codi i £50 y dunnell, mi allai gwerth taliadau dal a storio carbon fod gymaint ag £1.7 biliwn y flwyddyn yn y DU, ond mae yna ddwy broblem allweddol o hyd o ran rheoli’r farchnad hon.
Yn gyntaf, nid yw’r farchnad yn cael ei harwain na’i rheoli gan ffermwyr sy’n rheoli tir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn ail, mae’r galwadau ar dir yn cynyddu – mae carbon yn un o blith nifer.
Mae ffigurau a dderbyniwyd gan UAC yn dangos bod 75% o’r ceisiadau coedwigo i blannu dros 50ha yng Nghymru’n dod oddi wrth elusennau a chwmnïau preifat yn Lloegr, a bu cynnydd o 450% yn y ceisiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru am Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd coedwigaeth, rhwng 2015 a 2021. Dim ond 20% o’r ceisiadau oedd gan unigolion preifat neu fusnesau yng Nghymru.
Yn naturiol, mae yna bryderon ynghylch sut y bydd newidiadau o’r fath o ran defnydd a pherchnogaeth tir yn effeithio ar economi, diwylliant a chymunedau cefn gwlad Cymru ac ar gynhyrchu bwyd.
Canolbwyntiodd y siaradwr cyntaf, sef Mike Butterick, llefarydd ymgyrch 50 Shades of Green a ffermwr cig eidion a defaid yn Seland Newydd, ar y ffaith bod Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) Seland Newydd wedi cyflwyno mecanwaith prisio credydau carbon. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sydyn ym mhryniant tir ffermio da yn Seland Newydd gan fuddsoddwyr carbon, sydd am werthu gwrthbwysiadau carbon yn y dyfodol drwy greu coedwigoedd.
O fewn cyfnod o dair wythnos, collwyd 80,000 o unedau stoc yn rhan ddeheuol Ynys y Gogledd yn Seland Newydd yn sgil plannu coed, gyda dwy ran o dair o’r rheiny’n berchen i gwmnïau tramor, a bydd hynny’n costio oddeutu $35 miliwn i’r ardal yn sgil colli cynhyrchedd.
Aeth Mr Butterick yn ei flaen i dynnu sylw at y ffaith bod Seland Newydd â thargedau i blannu 380,000ha o goed rhywogaethau ecsotig, a 300,000ha o rywogaethau brodorol erbyn 2050, ond nad oes unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd ar ble y dylid eu plannu. Roedd y sefyllfa yn Seland Newydd yn fodd o atgoffa Cymru o ba mor gyflym y gall newidiadau anghynaliadwy o ran defnydd a pherchnogaeth tir ddigwydd. Roedd 50 Shades of Green o’r farn bendant na ddylid caniatáu i allyrwyr carbon ddefnyddio coedwigaeth fel esgus i ddal ati i allyru wrth anelu at Sero Net.
Esboniodd Jerry Langford o Coed Cadw sut y gallai dwy ffurf ar amaeth-goedwigaeth helpu i gyrraedd bron hanner targed creu coetiroedd 2050 Llywodraeth Cymru, heb golli unrhyw dir ffermio.
Mae gan y dull ‘gwrychoedd ac ymylon’ y potensial i gyflenwi tua 22% (40,000ha) o darged 2050, gydag ‘adfywio porfeydd coetiroedd yr ucheldir’ yn cyfrif am 22% ychwanegol.
Aeth Mr Langford yn ei flaen i amlinellu manylion y Cod Carbon Coetiroedd, sef safon sicrwydd ansawdd y DU ar gyfer cynhyrchu unedau carbon wedi’u dilysu. Fodd bynnag, ychwanegodd mai dim ond planhigfeydd newydd all gofrestru a chymhwyso ar gyfer y cod.
Daeth Andrew Sowerby o Confor â phersbectif coedwigaeth fasnachol i’r panel, gan siarad am gyfleoedd y farchnad newidiol hon. Pwysleisiodd fod angen i ffermwyr dreulio amser yn cyfrifo, yn cymharu ac yn meddwl yn feirniadol cyn mynd ati i blannu, i sicrhau mai nhw sydd y tu ôl i’r llyw.
Yn hytrach na phlannu ‘y goeden iawn yn y lle iawn am y rheswm iawn’, mae Confor o’r farn y dylid troi hynny o chwith, fel mai’r ‘rheswm iawn’ yw’r prif sbardun i’r ffermwr neu’r perchennog tir – p’un ai ydy hynny’n ddal a storio carbon, cynhyrchu pren, creu incwm o arallgyfeirio neu, yn syml, creu cysgod ar gyfer da byw. Yna esboniodd fod y categori Cynllun Creu Coetir Glastir Uwch yn caniatáu hyd at 75% o rywogaethau anfrodorol, gyda gofyniad i gynnwys o leiaf pum gwahanol fath, oherwydd y risgiau sy’n gysylltiedig â choetiroedd ungnwd.
Yn ystod y weminar, ymatebodd 52% o’r cyfranogwyr i bôl piniwn yn dweud y byddai ganddynt ddiddordeb mewn creu coetir yn ystod y pum mlynedd nesaf, ond nododd 77% o’r rheiny na fyddent yn ystyried partneru gyda buddsoddwr i dyfu coed.
Siaradodd Dr Helaina Black o’r Gynghrair Priddoedd Cynaliadwy am eu gwaith yn datblygu cod carbon pridd fferm y DU. Mae nifer fawr o newidynnau pan ddaw hi’n fater o greu model o botensial pridd i ddal a storio carbon, sef yn bennaf y math o bridd, yr arferion rheoli, a’i storfa garbon presennol. Mae deall potensial ac allyriadau’r pridd yn hanfodol er mwyn creu llinell sylfaen ar gyfer cyfrifo credydau carbon.
Esboniodd Dr Black hefyd y gall fod angen 60 mlynedd o reolaeth wedi’i dargedu ar briddoedd cyn iddynt gyrraedd eu capasiti storio carbon llawn, gan olygu bod contractau yn ymrwymiadau hirdymor, ac nid yw’r DU wedi pennu eto sut y bydd cyllid preifat yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau arian cyhoeddus yn y dyfodol. Fodd bynnag, mi orffennodd drwy ddweud bod gwella lefelau carbon organig priddoedd o fudd cyffredinol i iechyd y pridd, cynhyrchedd y fferm, dal a storio carbon, a bioamrywiaeth, a’i fod yn cynnig dull o ddefnyddio tir yn gynaliadwy drwy ‘rannu tir’.
Hoffai UAC ddiolch i’r holl siaradwyr am eu cyfraniad amhrisiadwy i’r weminar, ac mae’n gobeithio y bydd y ddeialog yn parhau, i sicrhau na yw Cymru’n dioddef yn sgil cipio tir ar gyfer carbon.
Gellir ail-wylio’r weminar gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Fersiwn Gymraeg: https://youtu.be/N58EvegVDbo
Fersiwn Saesneg: https://youtu.be/MD-ciVffA50