Mae Heddlu Gogledd Cymru a thîm ymchwil fforensig yn cydweithio i ddarparu cymorth amhrisiadwy ar gyfer ymchwilio i ymosodiadau ar dda byw yn y dyfodol.
Amcangyfrifir bod ymosodiadau gan gŵn ar dda byw wedi costio £1.52 miliwn i ffermwyr Prydain y llynedd, yn ôl data’r diwydiant. Ar gyfartaledd, yng Ngogledd Cymru, ceir oddeutu 120 o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu cyflawni gan gŵn sydd wedi dianc o’u cartrefi, ac mae nifer o’r achosion hyn yn ymosodiadau ar ddefaid.
Gyda chyllid a ddarparwyd gan DEFRA, mae swyddogion Gogledd Cymru wedi uno gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i roi proses ymchwilio seiliedig ar DNA ar waith, i nodi cŵn a amheuir o fod wedi ymosod ar dda byw.
Fel rhan o brosiect ymchwil cyfredol a ddechreuodd yn 2021, mae swyddogion y Tîm Troseddau Gwledig sy’n ymchwilio i’r digwyddiadau hyn wedi casglu samplau swab gan dda byw sydd wedi’u hanafu neu’u lladd, yn y man lle ddigwyddodd y drosedd.
Yna anfonir y samplau a gesglir ymlaen i ymchwilwyr y brifysgol, sy’n gweithio i geisio ynysu DNA y ci dan sylw.
Gobeithir y bydd y canlyniadau’n caniatáu i luoedd heddlu a gwasanaethau gwyddoniaeth fforensig ar draws Cymru a Lloegr i roi’r ymarfer DNA gorau ar waith wrth ddelio ag ymosodiadau ar dda byw, dan bwerau newydd arfaethedig y Bil Anifeiliaid a Gedwir.
Mae’r ddeddfwriaeth, a gefnogir gan y llywodraeth, yn mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, a bydd yn berthnasol ar draws Cymru a Lloegr.