Gellid yn hawdd anghofio bod costau mewnbwn megis porthiant, tanwydd a gwrtaith eisoes yn codi’n raddol tua diwedd 2021. Fodd bynnag, roedd rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin yn gatalydd ar gyfer y cynnydd enfawr mewn costau, a dechrau’r cynnydd cyflym yn y prisiau llaeth a gynigiwyd gan broseswyr yn 2022, gydag AHDB yn datgan cynnydd enfawr o 52.9% yn holl laeth Prydain rhwng Tachwedd 2021 a Thachwedd 2022.
Daeth y proseswyr yn ymwybodol o’r cynnydd difrifol yng nghostau cynhyrchu llaeth yn fuan iawn, gan weithredu’n gyflym i godi’r pris a dalwyd am laeth i gefnogi a chynnal cyflenwadau, ond oherwydd y tywydd sych dros yr haf, cafodd ffermwyr drafferth cyrraedd lefelau 2021.
Cododd y lefelau cynhyrchu 2.5% ym Medi a Thachwedd, o’u cymharu â lefelau 2021 ac maent yn annhebygol o ostwng fel y gwnânt fel arfer yn y gaeaf. Mi all hyn fod yn broblem toc pan fydd y lefelau ar eu hanterth yn y gwanwyn, a’r gormodedd tymhorol arferol o laeth ar y farchnad.
Mae prisiau llaeth yn gostwng ar hyn o bryd am y tro cyntaf ers dwy flynedd. Ochr yn ochr â’r cynnydd yn y cyflenwad llaeth yn yr hydref, mae effeithiau’r argyfwng costau byw yn dechrau cael effaith, gan leihau’r galw am laeth a chynnyrch llaeth, gyda chwyddiant prisiau nwyddau yn uwch nag erioed.
Mae’r diwydiant llaeth, mewn gwirionedd, ar dop y ffigyr-êt, yn gwegian ar ymyl llethr serth, gyda thaith gythryblus o’i flaen. Ni fydd y rhagolygon am y prisiau ar gât y fferm o unrhyw gysur. Gyda phrisiau ynni’n parhau i fod yn anwadal, mae’n anodd iawn proffwydo. Mae rhai arbenigwyr yn rhagweld y gall y pris ar gât y fferm ostwng i rhwng 33-38c y litr mor gynnar ag Ebrill, ac ar ôl gweld adroddiadau eisoes o ostyngiad o hyd at 10c y litr ym mhris llaeth cyflenwadau mis Mawrth, mae’r rhagolygon hunllefus hyn yn prysur droi’n realiti.
Mae dangosyddion y farchnad ar gyfer gwerth litr o laeth ar gât y ffatri wedi gostwng, gan adlewyrchu costau prosesu cynnyrch llaeth, ac yn ôl y disgwyl, mae’r enillion ar gât y ffatri wedi dioddef yn sgil y cynnydd enfawr yng nghostau ynni, llafur a chwyddiant.
Mae prisiau cyfanwerthu nwyddau’r DU wedi gostwng trwyddi draw. Gwelwyd gostyngiad o ryw fath neu’i gilydd ym mhrisiau menyn, powdwr llaeth sgim a chaws cheddar mwyn, ac mae’r farchnad hufen swmp ar chwâl, ar ôl i’w werth haneru ers Tachwedd, o £2.80kg i lawr i £1.35kg. Mae marchnadoedd byd-eang gwan, prisiau Ewropeaidd is, y lefelau cyflenwad uchel/galw isel yn faen tramgwydd i fasnachwyr.
Yn fyd-eang, mae’r lefelau cynhyrchu llaeth i fyny 0.8% ar y flwyddyn flaenorol, gyda’r Unol Daleithiau i fyny 1.3% a 27 gwlad yr UE i fyny 2.1% ar y flwyddyn flaenorol. Ar y llaw arall, mae Awstralia a Seland Newydd wedi gorfod ymdopi â thywydd gwael ac mae eu lefelau cynhyrchu nhw wedi gostwng, y naill 9.7% a’r llall 1.7%.
Mae ‘na, fodd bynnag, lygedyn o obaith, a ninnau ar drothwy’r gwanwyn. Mi fydd llygaid pawb ar y farchnad Tsieineaidd a pha mor gyflym y bydd eu galw nhw am laeth yn dychwelyd ar ôl codi cyfyngiadau Covid-19. Er na ddylid edrych ar hyn fel yr un ateb syml, mi all y galw o Tsieina warchod cynhyrchwyr i ryw raddau rhag y prisiau llaeth isaf a broffwydwyd, ac o bosib helpu i setlo’r marchnadoedd, ond does dim dwywaith bod gan y diwydiant llaeth siwrnai gythrybus o’i flaen yn 2023.