Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaeth o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru. Lansiwyd ymgyrch Dawns Glaw 2023 ar ddiwedd Chwefror.
Yn awr yn ei seithfed flwyddyn, mae rôl a chylch gwaith y tasglu’n parhau i ehangu i gynnwys canolbwyntio ar danau damweiniol, yn ogystal ag ymgysylltu mwy â ffermwyr a pherchnogion tir ynghylch cynlluniau rheoli tir. Gallwch ddarllen mwy am Dawns Glaw yma
Maent hefyd yn hyrwyddo negeseuon cyffredinol ynghylch llosgi dan reolaeth drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol, gan annog ffermwyr a pherchnogion tir i ‘ffonio cyn llosgi’ a dilyn gweithdrefnau diogelwch sylfaenol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma