Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi gwneud newidiadau i gyfraddau ardoll cig coch yng Nghymru, a fydd yn dod i rym o 1af Ebrill 2023.
Mae’r newidiadau’n golygu y bydd y cyfraddau ardoll, o 1af Ebrill, yn cynyddu’n unol â chwyddiant, gan olygu 6c ychwanegol o ardoll ar gyfer defaid i ffermwyr a 2c i broseswyr, a chynnydd cymesur o 40c yn yr ardoll ar gyfer gwartheg i ffermwyr, a 12c i broseswyr.
Hwn fydd y cynnydd cyntaf yn y cyfraddau ardoll cig coch yng Nghymru ers 2011. Yn ôl HCC bydd y newidiadau’n caniatáu iddyn nhw wella’u marchnata ac effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi, ac yn sicrhau mwy o gynaliadwyedd yn y dyfodol.