Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd taliadau cymorth ar gael i’r holl gynhyrchwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yng Nghymru eleni, gan ddarparu sicrwydd sydd ei wirioneddol angen ar y sector.
Mae hwn yn newyddion da i’r sector organig yng Nghymru ar ôl i’r Cynllun Glastir Organig ddod i ben, ac yn enwedig i’r rhai sy’n parhau i wynebu pwysau yn sgil chwyddiant.
Dylai’r cymorth hwn, a gaiff ei weinyddu drwy’r broses SAF, alluogi cynhyrchwyr organig i gynnal eu statws ardystiedig ar gyfer eleni, wrth i UAC ymgynghori â’r aelodau ar fanylion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a sut fydd cymorth hirdymor ar gyfer chynnyrch organig yn cael ei gynnwys fel rhan o’r cynllun.
Bydd y cynllun cymorth yn agored i’r holl gynhyrchwyr organig sy’n parhau i fod wedi’u hardystio’n llawn trwy gydol 2024, ac er bod y taliad uchaf wedi’i dapro, does dim terfyn uchaf ar y tir y gellir ei gyflwyno.
Bydd tir garddwriaethol yn derbyn £300 yr hectar (£400/ha gynt), bydd tir wedi’i amgáu yn derbyn £45 yr hectar (£65/ha gynt) a bydd tir sydd uwchben trothwy uchaf y tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu yn derbyn £9 yr hectar (£15/ha gynt). Bydd tir wedi’i amgáu gyda menter laeth yn derbyn £115 yr hectar.
Er bod y cyfraddau talu eleni tua 30% yn is na’r rhai a dderbyniwyd ar gyfartaledd dan y Cynllun Glastir Organig, ac er nad oes unrhyw daliadau ar gyfer costau ardystio, mi fydd cynhyrchwyr llaeth organig yn derbyn cyfradd uwch na’r hyn y byddent wedi’i dderbyn o’r blaen, i adlewyrchu’r cynnydd yn y costau mewnbwn.
Yng ngoleuni’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, mi fydd hyn yn ddiamau yn cael ei groesawu gan y sector, am fod y mwyafrif yn dibynnu ar gymorth o’r fath i gynhyrchu bwyd drwy ddulliau organig, oherwydd pur anaml y mae’r taliadau premiwm a dderbynnir ganddynt am eu cynnyrch yn adlewyrchu’r heriau a’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â ffermio yn y dull hwn.