Mae 2024 yn argoeli i fod yn flwyddyn hynod bwysig, nid yn unig i amaethyddiaeth yng Nghymru, wrth i UAC gymryd rhan yn ymgynghoriad terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond ar draws y byd gwleidyddol, gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel. Byddwn hefyd yn cael Prif Weinidog newydd, gyda’r Blaid Lafur yma yng Nghymru ar fin cynnal etholiad i ddewis arweinydd newydd, yn dilyn penderfyniad Mark Drakeford i gyhoeddi ei ymddeoliad.
I Gymru a’r byd ffermio mae yna faterion mawr ar droed. Ar flaen ein meddyliau y mae ymgynghoriad terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Y Cynllun hwn fydd yn ffurfio’r mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen. Mae UAC yn annog ei haelodau i gydweithio’n llawn ar y mater hwn ar frys. Dyma’r newid pwysicaf i’r polisi amaethyddol yng Nghymru ers sefydlu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962 ac mae’r Undeb yn gwybod na allwn fforddio cael hwn yn anghywir.
Rhaid i unrhyw gynllun taliadau yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a chynnal cyflogaeth yng nghefn gwlad Cymru. Rhaid i gynllun o’r fath sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy a gwerth chweil. Mae methu â gwneud hynny’n debygol o wneud difrod difrifol i ffermydd teuluol yng Nghymru a’r rôl a chwaraeir ganddynt o fewn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.
Mae’r blaenoriaethau polisi a amlinellwyd gan UAC dro ar ôl tro yn ystod 2023, ac yn ystod amryw o ymgynghoriadau eraill dros y pum mlynedd diwethaf, yn parhau i fod yn sail i’r gofynion allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Rhaid i’r Cynllun hwn fod yn un ymarferol i holl ffermwyr Cymru, a rhaid iddo helpu i gyrraedd y nodau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Efallai bod yna rai all ymdopi heb y cymorth uniongyrchol hwn, ond o edrych ar Arolwg Busnesau Fferm Cymru, mae’r mwyafrif yn dibynnu ar gymorth o’r fath er mwyn i’w busnes fferm oroesi. Mi fyddai’n ffolineb awgrymu y gall ffermio, fel sector, ymdopi a ffynnu heb unrhyw gymorth.
Mae sicrhau cyllid ar gyfer y sector felly yn parhau i fod yn elfen hanfodol o ffocws UAC ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Er bod UAC yn cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, mae cyllideb gyfan yr Adran Materion Gwledig o £482 miliwn yn cynrychioli 2% yn unig o Gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol bwysig bod y gyllideb hon yn aros yr un fath o leiaf, i sicrhau ein bod yn cyflawni’n hymrwymiadau a’n dyheadau mewn perthynas â bwyd, natur a’r amgylchedd.
Os ydych chi wedi darllen adroddiad UAC ‘Rôl cymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi da byw yng Nghymru’, mae’n glir beth fyddai angen newid pe bai’r taliadau cymorth uniongyrchol yn cael eu lleihau’n sylweddol. Defnyddiodd UAC bum mlynedd o ffigurau Arolwg Busnesau Fferm Cymru i ymchwilio i’r math o gynnydd o ran elw, neu ostyngiad o ran costau mewnbwn dethol y byddai ei angen i gynnal elw da byw cyfartalog ffermydd, petai’r cymorth uniongyrchol yn cael ei gwtogi 50% a 100%. Mae’r ffigurau’n rhai anodd eu darllen a dylent fod yn rhybudd i’r rhai sy’n meddwl y gall y diwydiant ddal ati i gynhyrchu bwyd, gan barhau ar yr un pryd i gyflawni’r holl ofynion allweddol eraill a osodir ar amaethyddiaeth gan y Llywodraeth.
Wrth inni ddechrau Blwyddyn Newydd a all weld newid o ran y Llywodraeth yn San Steffan, ac arweinyddiaeth newydd o fewn y Llywodraeth yma yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed bod gwleidyddion a llunwyr polisïau yn llwyr ddeall y rôl economaidd a chwaraeir gan gymorth i ffermwyr o fewn cyd-destun ein heconomi wledig. Bydd unrhyw doriadau, waeth beth yw eu maint, yn cael effaith yn y pen draw ar nifer o fusnesau eraill yma yng Nghymru, yn ogystal â busnesau fferm, ac mae model senario gwaethaf UAC yn dangos y byddai rhai o’r sectorau hyn yn colli degau o filiynau o incwm. Mi fyddai effaith anorfod dirywiad o’r fath yn y gweithgaredd busnes yng nghefn gwlad Cymru yn ddiamau yn cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd busnesau, swyddi yng nghefn gwlad, a’r union gymunedau sy’n asgwrn cefn i’r Gymru wledig. Mae yna hefyd wrthdaro amlwg rhwng dyheadau’r Llywodraeth i gael polisïau amgylcheddol â’i methiant (fel y gwelsom gyda Chynllun Cynefin Cymru) i gefnogi cynlluniau o’r fath gyda chyllid digonol.
Mi fydd y flwyddyn sydd i ddod yn ddiamau yn dod â nifer o heriau yn ei sgil, ond mi fydd UAC yno ar gyfer ei haelodau, yn gwneud ei gorau glas i sicrhau bod gennym ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru am genedlaethau i ddod.